Sgiliau TG
Hyfforddiant mewn Offer Digidol Hanfodol

Yn y byd sydd ohoni heddiw, mae gwybod sut i ddefnyddio technoleg yn hanfodol ar gyfer gwaith a bywyd bob dydd hefyd. Mae ein Sgiliau TG wedi’u cynllunio ar gyfer unrhyw rai sydd eisiau dysgu sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol neu sydd am wella eu gwybodaeth bresennol o dechnoleg. P’un a ydych yn dechrau o’r dechrau neu’n bwriadu gwella eich galluoedd, bydd ein cyrsiau’n eich helpu i deimlo’n fwy hyderus a medrus gyda thechnoleg. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl:
- Cyrsiau Hanfodion ac Arbenigwyr Microsoft: Dechreuwch gyda hanfodion Microsoft Office sef offer fel Word, Excel, PowerPoint, ac Outlook, a symudwch ymlaen i sgiliau lefel mwy arbenigol. Dysgwch sut i greu dogfennau proffesiynol, rheoli taenlenni, dylunio cyflwyniadau, a defnyddio e-bost yn effeithlon. Mae ein cyrsiau yn cwmpasu nodweddion sylfaenol ac uwch i hybu eich cynhyrchedd gartref neu yn y gweithle.
Pam astudio'r Sgiliau TG?
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.