Skip page header and navigation

1 Awst 2022 – 31 Gorffennaf 2023

  • Daeth Safonau’r Gymraeg i rym ar 1af Ebrill 2018 ar gyfer colegau Addysg Bellach yng Nghymru. Nod y Safonau yw:

    • Ei gwneud hi’n eglur i sefydliadau beth yw eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Gymraeg
    • Ei gwneud hi’n fwy eglur i siaradwyr Cymraeg pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg
    • Sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg a gwella eu hansawd

    Mae gan y Coleg, sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr (CSG) a Choleg Ceredigion (CC), gyfrifoldeb i sicrhau na chaiff yr iaith Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg. Hefyd mae yna ofyniad i hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, gan ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg ym myd gwaith a bywyd bob dydd.

    Mae’n ofynnol i’r Coleg gynhyrchu a chyhoeddi adroddiad blynyddol erbyn Ionawr 31ain fel y nodir yn Safonau’r Gymraeg, mae’r adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod o 1af Awst 2023 i 31ain Gorffennaf 2024.

    Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys:

    • sut mae’r Coleg wedi cydymffurfio â’r safonau yr oeddem dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn (fesul dosbarth y safon - cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithredu);
    • nifer y cwynion a dderbyniwyd (fesul dosbarth y safon - cyflenwi gwasanaethau, llunio polisi; gweithredu)
    • nifer y gweithwyr cyflogedig sydd â sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw (ar sail cofnodion o dan safon 158);
    • nifer yr aelodau staff a fynychodd gyrsiau hyfforddiant a gynigiwyd gennym yn Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion o dan safon 159);
    • canran o gyfanswm nifer y staff sy’n mynychu’r cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail cofnodion o dan safon 159);
    • nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd yn unol â gofynion amrywiol mewn perthynas â sgiliau Cymraeg (ar sail cofnodion o dan safon 162).
  • Rôl Tîm y Gymraeg yn y Coleg yw:

    • Hyrwyddo’r Gymraeg a dweud wrth ddysgwyr a’r holl staff am ei phwysigrwydd yng Nghymru ddwyieithog y dyfodol
    • Creu diwylliant ac ethos Cymreig ar draws y Coleg cyfan
    • Annog a chefnogi dysgwyr a staff i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg
    • Creu cyfleoedd i ddysgwyr a’r holl staff i ymarfer a defnyddio eu sgiliau Cymraeg
    • Monitro cydymffurfiad y Coleg â Safonau’r Gymraeg

    Er mwyn sicrhau mwy o ffocws ar fodloni gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg a datblygu’r coleg ymhellach fel sefydliad cwbl ddwyieithog mae tîm y staff sy’n goruchwylio’r gwaith hwn yn cynnwys:

    • Is-bennaeth Profiad Dysgwyr a Phartneriaethau (VP) - Vanessa Cashmore, arweinydd strategol ar gyfer y Gymraeg
    • Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd (DB) - Helen Griffith, arweinydd ar gyfer y Gymraeg
    • Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell a Safonau’r Gymraeg (LS/WLS) - Jan Morgan, yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg
    • Dau Swyddog y Gymraeg (WLO)
      • Menna Jones - cyfrifoldeb dros gampysau’r Graig, Rhydaman a’r Gelli Aur
      • Lowri Evans - cyfrifoldeb dros gampysau Pibwrlwyd, Ffynnon Job, Aberteifi ac Aberystwyth

    Mae gan yr Is-bennaeth, y Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd a’r Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell/Safonau’r Gymraeg gyfrifoldeb dros saith campws y coleg.

  • Roedd pob Coleg Addysg Bellach yng Nghymru i fod i gydymffurfio â rhai o Safonau’r Gymraeg o Ebrill 2018 gyda chydymffurfiad llawn yn ofynnol erbyn Medi 2018.

    Crëwyd safle Google mewnol yn benodol ar gyfer hybu’r Gymraeg, porth ar gyfer adnoddau a gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant Cymraeg. Mae yna adran bwrpasol ar y safle ar gyfer Safonau’r Gymraeg y gall yr holl staff ei chyrchu. Mae hyn yn cynnwys yr hysbysiadau cydymffurfio a gyflwynwyd i’r Colegau a chanllawiau hunangymorth a gwybodaeth i gefnogi staff i fodloni’r safonau o fewn rolau penodol eu swyddi.

    Bob blwyddyn disgwylir i bob pennaeth maes cwricwlwm a phob pennaeth maes swyddogaethol gwblhau matrics lle maent yn asesu eu cydymffurfiad â’r safonau unigol sy’n berthnasol i’w meysydd. Mae hyn yn gymorth i atgoffa staff o’r angen i gydymffurfio â’r safonau ac yn darparu trosolwg i’r Coleg o’i gydymffurfiad â’r holl Safonau.

  • Mae’r Coleg wedi datblygu Taflenni Cymorth sydd ar gael ar Safle Google y Gymraeg i hysbysu defnyddwyr ynghylch gofynion Safonau’r Gymraeg o ran Cyflenwi Gwasanaethau. Roedd y rhain yn cynnwys arweiniad ar:
     

    • Ateb y ffôn
    • Gohebiaeth
    • Arddangosiadau o ddeunyddiau cyhoeddus mewn digwyddiadau / arddangosfeydd
    • Dogfennau
    • Cyfleoedd dysgu
    • Darlithoedd cyhoeddus
    • Cyfarfodydd
    • Seremonïau graddio a gwobrwyo
    • Hyrwyddo gwasanaethau
    • Gwirio sillafu a gramadeg yn y Gymraeg
    • Troedynnau ac atebion awtomatig mewn negeseuon e-bost
    • Gwasanaethau cyfieithu

    Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cael eu diweddaru a byddant yn cael eu hyrwyddo i staff unwaith y byddant wedi’u cwblhau.

    Arddangosir posteri rhestrau gwirio yn ystafelloedd gwaith staff yn egluro gofynion lleiaf cyflenwi gwasanaethau Safonau’r Gymraeg y mae’n rhaid i staff gadw atynt.

    Mae staff sydd â sgiliau Cymraeg yn gwisgo laniardau sy’n nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg neu ddysgwyr. Hefyd mae hysbysiadau wrth bob un o’r desgiau derbynfa sy’n annog defnyddio’r Gymraeg.

    Mae staff rheng flaen yn ymwybodol o’r angen i ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog, gan ddefnyddio’r Gymraeg yn gyntaf, a sicrhau eu bod yn mynd ati’n weithredol i hyrwyddo gwasanaeth Cymraeg i ymwelwyr a myfyrwyr.

    Mae yna eiriad ar gael ar safle Google y Gymraeg y gall staff ei gynnwys yn nhroedyn eu negeseuon e-bost sy’n nodi eu bod yn gallu cyfathrebu, ac yn croesawu cyfathrebu, yn y Gymraeg. Mae’r holl negeseuon e-bost a anfonir o’r Coleg yn cynnwys troedyn sydd â’r wybodaeth angenrheidiol ynghylch croesawu gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn nodi na fydd ateb gohebiaeth yn Gymraeg yn achosi oedi.

    Mae gwefan y Coleg ar gael yn Gymraeg a Saesneg hefyd ac mae yn gwbl weithredol yn y naill iaith neu’r llall.

    Mae meddalwedd cyfrifiadurol ar gael ar gyfer gwirio sillafu a gramadeg ar bob un o gyfrifiaduron y Coleg.

    Mae’r Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell/Safonau’r Gymraeg hefyd yn rheoli’r tîm cyfieithu sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu llawn Saesneg i Gymraeg neu Gymraeg i Saesneg ar gyfer yr holl aelodau staff. Gellir cael mynediad i’r gwasanaeth hwn drwy Borth y Coleg a’r Safle Google Cymraeg.

    Er mwyn adnabod dysgwyr â sgiliau Cymraeg a chasglu tystiolaeth, ers Medi 2017 mae ffurflen gais y Coleg yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr nodi:

    • a. eu hiaith gyntaf
    • b. p’un a ydynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl, siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl neu ddim yn siaradwyr Cymraeg.
    • c. p’un a fyddent yn hoffi derbyn gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
    • d. p’un a fyddent yn hoffi astudio’n ddwyieithog
    • e. beth yw eu cymhwyster Cymraeg uchaf

    Caiff y wybodaeth hon ei llwytho i fyny i EBS a Gar I, cronfeydd data sy’n dal holl wybodaeth myfyrwyr ac a ddefnyddir i gynhyrchu gohebiaeth a chynllunio ar gyfer cymorth a darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Nodir dysgwyr sy’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ar y system gyda’r swigen siarad Cymraeg oren wrth ochr eu henwau.

    Caiff pob dysgwr a fynychodd ysgolion cyfrwng Cymraeg neu sydd â chymhwyster TGAU Cymraeg iaith gyntaf eu nodi ar y system fonitro, olrhain a chyfathrebu fewnol.
    Caiff pob dysgwr sydd wedi nodi bod ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg laniard yn awtomatig wrth gofrestru sy’n nodi bod ganddynt sgiliau yn y Gymraeg.

    Mae pob ffurflen a dogfen generig sy’n gysylltiedig â’r Coleg yn cael eu darparu’n ddwyieithog ar gyfer yr holl ddysgwyr.

    Mae dysgwyr yn mynychu sesiynau cynefino am y cymorth, gweithgareddau a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael iddynt yn ystod eu hamser yn y Coleg. Caiff hawliau dysgwyr mewn perthynas â’r Gymraeg eu hyrwyddo yn ystod y sesiynau cynefino hyn a chynhelir sesiynau ymwybyddiaeth o’r Gymraeg yn ystod y flwyddyn academaidd ar draws pob campws.

    Caiff Llysgenhadon Myfyrwyr y Gymraeg eu recriwtio ar draws y coleg yn ystod mis Hydref bob blwyddyn academaidd. Byddant yn gweithio’n agos gyda Swyddogion y Gymraeg ac o fewn eu meysydd cwricwlwm i hyrwyddo manteision defnyddio a gwella sgiliau iaith Gymraeg.

    Mae’r coleg yn cyflogi dau Swyddog y Gymraeg sy’n gweithio ar draws y campysau ac sy’n cynnig dewis o gymorth Iaith Gymraeg ar gyfer staff addysgu a dysgwyr. Mae’r Swyddogion y Gymraeg hyn yn darparu cymorth i ddysgwyr er mwyn gwella eu sgiliau Cymraeg o fewn y cwricwlwm yn ogystal â chreu cyfleoedd i ddysgwyr a staff ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol ac mewn gweithgareddau allgyrsiol.

    Cynllunnir calendr o ddathliadau Cymraeg bob blwyddyn academaidd a chaiff staff a dysgwyr ill dau eu cefnogi a’u hannog gan Swyddogion y Gymraeg i gymryd rhan a chroesawu diwylliant, iaith a hanes Cymru.
    Anogir staff i ddysgu a gwella eu sgiliau iaith Gymraeg a rhoddir cyfle iddynt i gymryd cyrsiau iaith Cymraeg Gwaith naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein.

  • Gwneir asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar bob polisi sy’n newydd, a adolygwyd neu a ddiwygiwyd er mwyn sicrhau’r canlynol:

    • rhoddir ystyriaeth i gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
    • nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na Saesneg
    • ystyrir pob cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg
    • bod pob polisi yn ystyried ac yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
  • Gofynnir i bob gweithiwr cyflogedig a ydynt am dderbyn gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Cesglir y wybodaeth gan yr adran Adnoddau Dynol (HR) a darperir gohebiaeth yn unol â hynny.

    Mae pob polisi sy’n cael ei roi gan yr adran Adnoddau Dynol ynghylch recriwtio a chyflogaeth yn y Coleg ar gael yn ysgrifenedig yn Gymraeg a Saesneg.

    Mae polisïau sy’n ymwneud â chwynion staff a gweithdrefnau disgyblu wedi bod yn destun asesiad effaith ar yr iaith Gymraeg ac maent yn caniatáu i staff ddefnyddio’r Gymraeg trwy gydol y prosesau.

    Mae safle Google y Gymraeg pwrpasol gan y Coleg ar gyfer y Gymraeg sy’n cynnwys:

    • Safonau’r Gymraeg
    • Adnoddau a dolenni i gyrsiau ar-lein i ddysgu Cymraeg
    • Terminoleg ac adnoddau pwnc-benodol

    Anogir yr holl staff i fynychu cyrsiau i wella eu sgiliau Cymraeg ac i ddatblygu sgiliau i’w galluogi i addysgu’n ddwyieithog.

    Gall staff wella eu sgiliau iaith drwy’r rhaglen Cymraeg Gwaith a gynigir wyneb yn wyneb neu drwy gyflwyniad ar-lein. Caiff y cynllun Cymraeg Gwaith + newydd ei hyrwyddo hefyd ac mae wedi cael adolygiadau cadarnhaol.

    Cynigia’r Coleg gyfle i staff addysgu gymryd rhan mewn datblygiad staff sy’n benodol ar gyfer gwella eu sgiliau addysgu dwyieithog. Ceir y sesiynau Sgiliaith allanol yn ogystal â sesiynau mewnol y Llwybr Dwyieithog. Gall staff sy’n dewis ymgymryd â’r Llwybr Dwyieithog fwynhau gweithdai teilwredig a darlithoedd ar sut i gyflwyno’n ddwyieithog i grwpiau o ddysgwyr a sut i greu awyrgylch dosbarth sy’n annog dysgwyr i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg mewn modd cadarnhaol.

    Mae canllaw addysgu ar draws y Coleg, sef “Sylfaenol, Gwell, Gorau”, wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno i’r holl staff addysgu. Mae hon yn eu cefnogi i wella eu sgiliau addysgu dwyieithog yn raddol. Bellach mae’r sgiliau a ddysgwyd trwy’r rhaglen hon wedi’u cyflwyno i’r ystafelloedd dosbarth a chaiff y staff addysgu eu gwerthuso o ran sut maent yn gweithredu’r meini prawf yn ystod eu harsylwadau addysgu ffurfiol.
    Fel rhan o broses gynefino’r Coleg, mae’n ofynnol i staff newydd hunanasesu a chwblhau holiadur byr sy’n nodi lefel eu sgiliau Cymraeg ynghyd â chwblhau’r cwrs ar-lein gorfodol, Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg.

    Enw Cwrs Nifer y Cyrsiau a Gyflwynir
    Cymraeg Gwaith, cwrs wyneb-yn-wyneb a gyflwynwyd yn fewnol 19
    Cwrs ar-lein Cymraeg Gwaith 14
    Cwrs Cymraeg Gwaith + 4
    Cwrs Cymraeg (Nant Gwrtheyrn) 1
    Modiwl MA mewn Dwyieithrwydd – cwrs allanol 1
    Rhaglen fentora un-i-un Sgiliaith 2
    Llwybr Dwyieithog – rhaglen datblygu staff fewnol 6
  • Mae’r weithdrefn Gwyno ar gael ar y wefan ac mae’n adlewyrchu gofynion Safonau’r Gymraeg mewn perthynas â Chwynion

    • a. Cwynion mewn perthynas â Safonau Cyflenwi Gwasanaethau 
      • Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion
    • b. Cwynion mewn perthynas â Safonau Llunio Polisi 
      • Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion
    • c. Cwynion mewn perthynas â Safonau Gweithred 
      • Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion
  • Gofynnir i staff gwblhau neu ddiweddaru hunanasesiad ar-lein cyfredol ar lefel eu sgiliau Cymraeg. Cyfanswm nifer y staff ar 31.07.2024 oedd 798, sy’n cynnwys staff addysgu, rheoli a chefnogi. Ni wnaeth 55 o aelodau staff gwblhau’r asesiad. Staff ffracsiynol oedd llawer o’r rhain neu ddarlithwyr gwadd a all fod wedi eu contractio am ddiwrnod yn unig. Nid yw’r data am y rhain wedi’i gynnwys yn y wybodaeth isod.

    Uchel Canolradd Sylfaenol Mynediad Dim
    Siarad 20.32% 14.00% 24.36% 24.09%
    Darllen 15.75% 16.29% 22.34% 23.68%
    Ysgrifennu 12.25% 14.54% 20.05% 24.09%
  • Mae’r adran adnoddau dynol wedi nodi na chynigiwyd hyfforddiant yn y meysydd canlynol yn ystod y cyfnod Awst 2023 i Orffennaf 2024:

    • recriwtio a chyfweld;
    • rheoli perfformiad;
    • cwynion a gweithdrefnau disgyblu;
    • delio â’r cyhoedd;
    • cynefino

    Cyflwynwyd y cyrsiau Iechyd a Diogelwch canlynol yn ystod y flwyddyn:

    Teitl y Cwrs Cyfanswm y nifer wnaeth gwblhau’r cwrs Nifer wnaeth gwblhau’r cwrs yn Gymraeg
    Cymorth Cyntaf yn y Gwaith 17 0
    Cwrs adnewyddu Cymorth Cyntaf yn y Gwaith 11 0
    Hyfforddiant Cadair Achub 4 0
    Hyfforddiant EpiPen 11 9
    IOSH Arwain yn Ddiogel 20 0
    IOSH Rheoli’n Ddiogel 44 0
    Hyfforddiant Ysgolion Dringo 67 0
    Gweithio ar Uchder 27 0
    MIDAS – Hyfforddiant Bws Mini 27 0
    Hyfforddiant ar-lein Ymweliadau Addysgol 172 1
  • Nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwdy yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd yn unol â gofynion amrywiol mewn perthynas â sgiliau Cymraeg (ar sail cofnodion o dan safon 162).

    Category Number of Posts
    Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol 10
    Mae angen dysgu sgiliau Cymraeg pan benodir i’r swydd 0
    Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol 23
    Nid yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol 66
  • Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am yr adroddiad hwn, cysylltwch â:

    Helen Griffith
    Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd - arweinydd strategol ar gyfer y Gymraeg
    griffithh@ceredigion.ac.uk

    Jan Morgan
    Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell
    Gyfrifol am fonitro cydymffurfiad â Safonau’r Gymraeg
    janet.morgan@colegsirgar.ac.uk