Skip page header and navigation

Teithio a Thwristiaeth Lefel 2

  • Campws Y Graig
1 flwyddyn

Bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi a’ch annog i symud ymlaen i yrfa gyffrous yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

Mae ein cwrs yn borth i mewn i un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol hefyd ac mae rhai myfyrwyr yn ei ddefnyddio fel cam ar y ffordd i raglen lefel tri mewn teithio a thwristiaeth a all arwain at astudio yn y brifysgol; gall eraill ddewis llwybrau astudio eraill, prentisiaeth neu waith llawn amser.

Yn ogystal, bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau a thechnegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Elfen ganolog o’r cwrs yw’r bartneriaeth agos gyda’r diwydiant twristiaeth yn lleol ac yn rhyngwladol. Byddwch yn cael golwg realistig ar ofynion gweithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth mewn amgylchedd ysgogol a chyffrous a byddwch yn archwilio’r diwydiant drwy deithiau i atyniadau ymwelwyr a busnesau twristiaeth gartref a thramor.

Byddwch hefyd yn gallu rhoi theori ar waith trwy gefnogi digwyddiadau mewn partneriaeth â’r diwydiant twristiaeth lleol.

Bydd y cwrs hwn yn dysgu amrywiaeth o unedau a phynciau gan gynnwys o bosibl:

  • Gwasanaeth cwsmeriaid ym maes teithio a thwristiaeth
  • Diwydiant teithio a thwristiaeth y DU
  • Cyrchfannau teithio a thwristiaeth
  • Hyrwyddo ym maes teithio a thwristiaeth
  • Atyniadau ymwelwyr pwrpasol y DU
  • Lletygarwch ym maes teithio a thwristiaeth
  • Trefnu digwyddiad
  • Gwybod am feysydd awyr a chwmnïau hedfan
  • Cynllunio gyrfa ym maes teithio a thwristiaeth
  • Twristiaeth arfordirol y DU
  • Twristiaeth wledig y DU
  • Deall twristiaeth arbenigol

Hefyd byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ymhellach drwy TGAU Saesneg neu fathemateg.

Mae rhai myfyrwyr yn defnyddio’r cwrs hwn fel cam ar y ffordd i raglen lefel tri mewn teithio a thwristiaeth; gall eraill ddewis llwybrau astudio pellach gwahanol, prentisiaeth neu waith llawn amser.

Mae cymhwyster lefel tri hefyd yn llwybr tuag at astudio ar lefel prifysgol.

Asesir yr holl unedau’n fewnol gan ddefnyddio asesiadau a gynlluniwyd gan y ganolfan. Gall y rhain gynnwys arsylwadau mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â gwaith, cyflwyniadau, prosiectau, neu ysgrifennu estynedig drwy aseiniadau ac adroddiadau.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Bydd angen o leiaf tri TGAU graddau A* i C arnoch i astudio’r cwrs hwn. Rhaid i un o’r rhain fod yn Saesneg, Cymraeg iaith gyntaf, neu fathemateg.

Os ydych yn symud ymlaen o raglen lefel un, bydd angen proffil teilyngdod ar lefel un arnoch i symud ymlaen i’r rhaglen lefel dau hon ynghyd â geirda gan eich tiwtor personol.   

Asesir yr holl fyfyrwyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt i ddod am gyfweliad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a phrynu’r cit sylfaenol i’w ddefnyddio os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol fel rhan o’r cwrs.