Skip page header and navigation

Teithio a Thwristiaeth Lefel 3

  • Campws Y Graig
2 flynedd

Mae’r cwrs hwn yn rhoi mynediad i yrfa yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol. 

Yn draddodiadol mae’r diploma rhagarweiniol lefel tri 90 credyd yn ffurfio blwyddyn gyntaf rhaglen dwy flynedd.

Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae’r mwyafrif o ddysgwyr yn symud ymlaen i ddiploma estynedig lefel tri mewn teithio a thwristiaeth (sy’n gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch). Mae rhai myfyrwyr yn symud ymlaen yn uniongyrchol i addysg uwch ac eraill i gyflogaeth.

Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau, technegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Elfen ganolog o’r cwrs yw’r bartneriaeth agos gyda’r diwydiant twristiaeth yn lleol ac yn rhyngwladol. Byddwch yn cael golwg realistig ar y gofynion o weithio yn y diwydiant teithio a thwristiaeth mewn amgylchedd ysgogol a chyffrous. Cewch y cyfle i archwilio’r diwydiant trwy ymweliadau ag atyniadau ymwelwyr a busnesau twristiaeth gartref a thramor. Byddwch hefyd yn gallu rhoi theori ar waith trwy gefnogi digwyddiadau mewn partneriaeth â’r diwydiant twristiaeth lleol.

Ar gwrs Diploma Rhagarweiniol Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau. Bydd y pynciau’n cynnwys detholiad o’r unedau canlynol

  • Uned 1 Diwydiant teithio a thwristiaeth y DU
  • Uned 2 Gwasanaeth cwsmeriaid ym maes teithio a thwristiaeth
  • Uned 3 Paratoi ar gyfer gyrfa ym maes teithio a thwristiaeth
  • Uned 4 Cyrchfannau teithio a thwristiaeth
  • Uned 5 Atyniadau ymwelwyr y DU
  • Uned 6 Lletygarwch ym maes teithio a thwristiaeth
  • Uned 8 Gweithrediadau teithiau’r DU
  • Uned 10 Diwydiant cynadleddau a digwyddiadau’r DU
  • Uned 11 Marchnata ar gyfer teithio a thwristiaeth
  • Uned 13 Rolau a chyfrifoldebau cynrychiolwyr canolfannau gwyliau 94
  • Uned 14 Ymchwilio i staff caban cwmnïau hedfan
  • Uned 15 Meysydd awyr y DU
  • Uned 17 Y diwydiant criwsiau 115
  • Uned 18 Atyniadau twristiaeth treftadaeth y DU
  • Uned 19 Twristiaeth gyfrifol
  • Uned 20 Twristiaeth arbenigol
  • Uned 21 Teithio busnes
  • Uned 23 Tywys teithiau

Hefyd byddwch yn datblygu eich llythrennedd a’ch rhifedd drwy TGAU Saesneg neu fathemateg. 

Mae’r cwrs hwn yn rhoi mynediad i yrfa yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn lleol ac yn genedlaethol.  Yn draddodiadol mae’r diploma rhagarweiniol L3 90 credyd yn ffurfio blwyddyn gyntaf rhaglen dwy flynedd.

Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae’r mwyafrif o ddysgwyr yn symud ymlaen i Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Teithio a Thwristiaeth. Mae rhai myfyrwyr yn symud ymlaen yn uniongyrchol i addysg uwch ac eraill i gyflogaeth.

Bydd y cwrs yn darparu cyfleoedd i ddatblygu ystod gyfan o sgiliau, technegau a phriodoleddau personol, sy’n hanfodol ar gyfer perfformiad llwyddiannus yn y diwydiant twristiaeth ac mewn bywyd gwaith.

Asesir yr holl unedau yn fewnol gan ddefnyddio asesiadau a gynlluniwyd gan y ganolfan. Gall y rhain gynnwys arsylwi mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â gwaith, cyflwyniadau, prosiectau, neu ysgrifennu estynedig.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Pum TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc galwedigaethol perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.

Asesir yr holl fyfyrwyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt i ddod am gyfweliad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. 

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.