
Dechrau Newydd
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs Dechrau Newydd (Mynediad Lefel 3) yncynnig cyflwyniad ardderchog i fyfyrwyr i fywyd coleg ac i fyd addysg bellach.
Mae wedi’i anelu at y rheiny sy’n dychwelyd i addysg, myfyrwyr a all fod angen cymorth ychwanegol gyda’u hastudiaethau neu eu bywyd personol, myfyrwyr heb unrhyw gymwysterau blaenorol neu’r rheiny nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr galwedigaethol.
Cewch y cyfle i ymgymryd â sesiynau rhagflas mewn amrywiaeth o feysydd galwedigaethol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae tîm tiwtoriaid y cwrs Dechrau Newydd yn brofiadol ac yn fedrus wrth gyflwyno addysgu a dysgu i fyfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol a chymhelliant er mwyn adennill eu diddordeb mewn addysg.
Mae llawer o agweddau ar y cwrs yn seiliedig o gwmpas sesiynau adeiladu tîm gweithredol i gefnogi datblygiad personol a lles er mwyn helpu magu hyder, hunan-barch a sgiliau rhyngbersonol. Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ochr yn ochr â datblygu gwybodaeth a sgiliau mewn ystod o wahanol feysydd galwedigaethol. Hefyd rhoddir cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan yng ngwobr efydd Dug Caeredin. Mae datblygu sgiliau mewn rhifedd a lythrennedd hefyd yn flaenoriaeth ar hyd y flwyddyn.
Tua diwedd y cwrs, bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth ac arweiniad i’w helpu i ddewis llwybr dilyniant priodol.
Bydd elfennau craidd y cwrs yn cynnwys:
- Sesiwn ragflas mynediad lefel tri galwedigaethol
- Gwobr Efydd Dug Caeredin
- Rhaglen diwtorial Adolygiad cynnydd
- Datblygu llythrennedd a rhifedd drwy lwybrau amrywiol
- Byddwch Actif a gweithgareddau lles
Mae’r cwrs yn cefnogi cyfleoedd i symud ymlaen i gwrs sylfaen y coleg neu i gyfleoedd hyfforddiant eraill.
Cyflwynir y rhaglen mewn amgylchedd dysgu â chefnogaeth.
Mae yna ddull asesu person-ganolog a bydd pob dysgwr yn gweithio ar ei dargedau unigol ei hun trwy gydol y flwyddyn.
Asesir unedau galwedigaethol yn fewnol drwy aseiniadau ac arsylwadau tiwtor. Caiff sgiliau eu hasesu drwy asesiadau ysgrifenedig.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael yn ddwyieithog.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad. Mae hwn yn gwrs llawn amser a disgwylir i ddysgwyr fynychu am 3 diwrnod llawn yr wythnos.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.
Dug Caeredin - £30
Prynu esgidiau cerdded