
Sylfaen Lefel 1
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs sylfaen lefel un yn cynnig cyflwyniad ardderchog i fyfyrwyr i fywyd coleg ac i fyd addysg bellach.
Mae wedi’i anelu at y rheiny sy’n dychwelyd i addysg, myfyrwyr a all fod angen peth cymorth ychwanegol arnynt gyda’u hastudiaethau neu eu bywyd personol, neu’r rheiny nad ydynt eto wedi penderfynu ar lwybr galwedigaethol.
Mae’r cwrs yn cwmpasu meysydd galwedigaethol, gwella sgiliau a phynciau craidd. Bydd dysgwyr yn astudio cymhwyster galwedigaethol lefel un.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth ychwanegol gyda’u dysgu a byddant yn cael cynnig cefnogaeth gan fentor cefnogi dysgwyr. Mae’r tîm tiwtoriaid yn brofiadol ac yn fedrus wrth gyflwyno addysgu a dysgu i fyfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol a chymhelliant er mwyn adennill eu diddordeb mewn addysg.
Tua diwedd y cwrs, bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth ac arweiniad gyrfaol i’w helpu i ddewis llwybr dilyniant addas.
Bydd yr elfennau “craidd” yn cynnwys:
- Diploma Lefel 1 mewn astudiaethau galwedigaethol
- Rhaglen Diwtorial
- Adolygiad Cynnydd
- Datblygu Llythrennedd a Rhifedd drwy lwybrau amrywiol: Ailsefyll TGAU, Cymwysterau Agored, Sgiliau Hanfodol Cymru a WEST
- Byddwch Actif a gweithgareddau lles
- Cyfle i ennill profiad gwaith wedi’i deilwra i gefnogi llwybrau dilyniant yn y dyfodol.
Mae’r cwrs yn cefnogi cyfleoedd i symud ymlaen i gyrsiau Diploma Galwedigaethol Lefel 1 penodol, hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.
Caiff y cwrs ei asesu’n barhaus a bydd yn cynnwys aseiniadau a gwaith ymarferol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd gan ddysgwyr sy’n symud ymlaen o gwrs yng Ngholeg Sir Gâr ofynion mynediad gwahanol i gynnwys cwblhau ac ymgysylltu’n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a bydd ganddynt eirda cadarnhaol.
Ffi cofrestru - £25
Gall fod costau bach iawn mewn perthynas â’r pynciau galwedigaethol a ddewisir. Bydd hyn yn cael ei drafod wrth gofrestru.