Ymgyrchydd gwobrwyedig yn ymuno â Choleg Sir Gâr fel cydlynydd TGAU Saesneg
Mae Coleg Sir Gâr wedi croesawu aelod newydd o staff sydd eisoes ar flaen y gad addysgol gyda’i gwaith ymgyrchu ysbrydoledig a gwobrwyedig.
Georgia Theodoulou yw cydlynydd TGAU Saesneg newydd y coleg sydd hefyd yn addysgu Saesneg Safon Uwch a drama yn y coleg.
Y tu allan i’r gwaith, mae hi’n ymgyrchydd VAWG (Trais yn Erbyn Menywod a Merched) gwobrwyedig, yn gynrychiolydd i UN Women UK ac yn Arweinydd Strategol Our Streets Now ar gyfer Cymru a Chwaraeon.
Mae Georgia yn gweithio ar draws campysau Rhydaman, Pibwrlwyd a’r Graig ac mae hi hefyd yn gyn-fyfyrwraig Safon Uwch yn y coleg lle bu’n astudio llenyddiaeth ac iaith Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg ac astudiaethau drama a theatr.
Ar ôl ennill ei chymwysterau Safon Uwch, aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Brenhinol clodfawr Cerdd a Drama Cymru, lle bu’n hyfforddi ac mae’n dal i weithio fel actores broffesiynol.
Ers tair blynedd, mae hi wedi bod yn gweithio gyda Our Streets Now ar ymgyrch genedlaethol sy’n mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus. Dechreuodd ei gwaith gyda nhw ar ôl i’r mudiad ofyn i athrawon am gymorth gyda chynnwys ar gyfer eu hadnoddau.
Mae hi hefyd yn gweithio’n llawrydd i elusennau a sefydliadau ar gydraddoldeb rhywiol ac aflonyddu a cham-drin rhywiol, gyda ffocws ar leoliadau addysgol a chwaraeon ac mae’n cynghori Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth a strategaeth ynghylch trais yn erbyn menywod.
Enillodd Georgia wobr UN Women UK fis Tachwedd diwethaf am y gwaith y mae’n arwain arno yng Nghymru, hyfforddi athrawon ac arweinwyr diogelu yn ogystal â myfyrwyr a phobl ifanc ac ymgyrchu i wneud mannau cyhoeddus yn fwy diogel i bawb.
Fel rhan o UN Women UK, bydd Georgia yn mynychu’n rhithwir 68ain sesiwn y Comisiwn ar Statws Menywod (CSW) a gynhelir yn Efrog Newydd eleni (2024).
Roedd hi hefyd yn rhan o’r fenter ‘Arweinwyr Benywaidd mewn Pêl-droed’ yn Uwchgynhadledd Pêl-droed y Byd yn Sevilla, Sbaen ym mis Medi 2023, lle’r oedd pobl fel ysgrifennydd cyffredinol FIFA a chwaraewyr proffesiynol o Sevilla FC yn bresennol.
Yng Ngholeg Sir Gâr, Georgia sy’n cydlynu ailsefyll TGAU Saesneg lle mae myfyrwyr na chawsant y graddau yr oedd eu hangen arnynt ar lefel TGAU yn cael y cyfle i ailddysgu ac ailsefyll eu harholiad.
Gallai hyn fod er mwyn symud ymlaen i lefel benodol o ddiploma BTEC galwedigaethol neu i ddechrau gyrfa neu radd fel addysgu, lle mae TGAU mathemateg a Saesneg yn orfodol.
Mae Georgia wedi dysgu yn y gorffennol yn ysgolion cyfun yr Esgob Gore a’r Olchfa ac wedi gweithio mewn ysgol annibynnol arbennig yn Llanelli ar gyfer myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio.
Dywedodd Georgia Theodoulou, cydlynydd TGAU Saesneg Coleg Sir Gâr: “Rwy’n mwynhau fy ngwaith yn y coleg yn fawr gan eich bod yn dod ar draws myfyrwyr sydd wedi cael profiad negyddol gyda’r pwnc o’r blaen, felly mae’n wych eu gweld yn dysgu mewn ffordd wahanol nag o’r blaen a’u gweld yn cael yr eiliad wawrio honno.
“Mae myfyrwyr yn dod atom o bob math o feysydd cwrs, o arlwyo i adeiladu, felly rydym yn ceisio cysylltu cynnwys cwrs TGAU â’r meysydd hynny a dysgu mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw.
“Rydym hefyd yn annog y rhaglen Addysgu’r Athrawon lle mae’r myfyriwr yn cael rhannu ei faes cwrs arbenigol ei hun fel plastro neu astudiaethau anifeiliaid.”