Skip page header and navigation

Astudio Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr

Cychwynnwch ar daith gyffrous i fyd Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Rydyn ni’n cynnig cyrsiau Teithio a Thwristiaeth dynamig sydd wedi’u cynllunio i roi dealltwriaeth i chi o dwristiaeth leol a rhyngwladol hefyd, a’ch paratoi chi ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth cyffrous ac amrywiol yn y diwydiant.

P’un a ydych yn breuddwydio am archwilio cyrchfannau newydd, gweithio wrth wraidd y diwydiant twristiaeth, neu greu profiadau bythgofiadwy i eraill, y cyrsiau yma yw eich mynedfa. Dysgwch oddi wrth arbenigwyr y diwydiant, enillwch brofiad ymarferol, a darganfyddwch gyfleoedd diddiwedd i deithio a gweithio o gwmpas y byd. Dechreuwch eich 

Pam astudio Teithio a Thwristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr?

01
Cyfleoedd i deithio ac ennill profiad uniongyrchol o’r diwydiant twristiaeth
02
Partneriaethau agos gyda’r diwydiant twristiaeth lleol felly gallwch chi ddysgu oddi wrth fusnesau go iawn
03
Staff addysgu brwdfrydig a meithringar i’ch tywys tuag at lwyddiant