Skip page header and navigation

Astudio Iechyd, Gofal a Chynghori yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Ydych chi’n frwd dros gael effaith gadarnhaol ym mywydau pobl? Ydych chi’n dyheu am yrfa werth chweil mewn gofal iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal plant?

Mae astudio cwrs Gofal neu Gynghori yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ddewis sydd nid yn unig yn fuddiol i chi yn bersonol a phroffesiynol, ond mae hefyd yn cael effaith enfawr ar yr unigolion a’r cymunedau rydych chi yn eu gwasanaethu. Mae’n llwybr sy’n cynnig dysgu parhaus, gwobrau emosiynol, a’r cyfle i wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau pobl.

Rydyn ni’n cynnig ystod o gyrsiau sy’n berthnasol i ddiwydiant gan gynnwys cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, Gwaith Chwarae, Cynghori ar amrywiaeth o lefelau o Addysg Bellach a Phrentisiaethau i Fynediad i Addysg Uwch a chyfleoedd lefel Prifysgol.

Pam astudio Cwrs Iechyd, Gofal a Chynghori - Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith

01
Mae cyfleoedd i deithio yn cynnig siawns i chi ehangu eich gorwelion, ymgolli eich hun mewn gwahanol ddiwylliannau, ac ennill mewnwelediadau gwerthfawr sy’n ategu eich astudiaethau academaidd. Mae teithiau diweddar wedi cynnwys Canada, Barcelona a Ffrainc
02
Rydyn ni wedi sefydlu cysylltiadau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i gynnig profiadau gwaith byd go iawn amrywiol i chi sy’n ategu eich cymwysterau ar gyfer ennill trwydded broffesiynol ar gwblhau’r rhaglen.
03
Mae’r holl ddarlithwyr yn weithwyr proffesiynol. Maen nhw’n parhau i gymryd rhan weithredol mewn ymarfer ac ymchwil ill dau er mwyn sicrhau bod eu haddysgu’n parhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol.

Past Students

Myfyrwyr yn darllen cyfeirlyfr damcaniaethol.

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Gael trwydded i ymarfer a chael cyflogaeth o fewn amrywiol leoliadau gan gynnwys ysgolion, meithrinfeydd, lleoliadau gofal dydd, Cylchoedd Meithrin, Dechrau’n Deg, ysbytai a chyfleusterau gofal. 
  2. Ennill dyrchafiad i swydd reoli yn y gwaith ar ôl cwblhau prentisiaeth Lefel 3. 
  3. Astudiaethau pellach yn y brifysgol i ddilyn amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys addysgu, gwaith cymdeithasol, nyrsio, seicoleg, bydwreigiaeth, therapi chwarae, therapi iaith a lleferydd, gweithwyr proffesiynol iechyd cysylltiedig, seicoleg a throseddeg, a nifer o rai eraill.

Pam astudio Cwrs Iechyd, Gofal a Chynghori - Addysg Uwch

01
Mae ein rhaglenni AU yn unigryw yng Nghymru. Y radd Cynghori yw’r unig raglen BACP-achrededig yng Nghymru.
02
Mae’r holl ddarlithwyr yn ymarferwyr cwbl gymwys sy’n parhau i ymgysylltu ag ymarfer ac ymchwil, cyhoeddi papurau, ac ymgysylltu â’u cymuned broffesiynol i sicrhau bod eu haddysgu yn gyfoes ac yn berthnasol.
03
Caiff y niferoedd sydd yn y dosbarth eu cynnal er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn addysgu, cefnogaeth a chyngor neilltuol. Yn ogystal gallwch chi gael mynediad i adnoddau sy’n ateb gofynion eich cwrs, megis gofod preifat i ymarfer sgiliau craidd.
Darlithydd gyda myfyriwr yn arddangos model dysgu babi

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

  1. Mae graddedigion BA wedi mynd ymlaen i astudio pellach, gan gynnwys graddau Meistr a chyrsiau TAG.
  2. Mae myfyrwyr hefyd wedi dod yn ymarferwyr cynghori annibynnol cwbl gymwys ac wedi datblygu busnesau bach llwyddiannus sy’n cynnig therapi i gymunedau lleol yng Nghymru.
  3. Hefyd mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i weithio yn y maes iechyd meddwl, yn ogystal â mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, iechyd a chymunedol.

Newyddion Perthnasol

Bu ymweliad ag Alberta yng Nghanada i archwilio gwasanaethau gofal iechyd ac addysg yn fuddiol iawn i fyfyrwyr a staff Coleg Ceredigion.

Students standing on stairs of a Government building in Alberts