Skip page header and navigation
Myfyrwyr yn sefyll ar grisiau adeilad llywodraeth

Bu ymweliad ag Alberta yng Nghanada i archwilio gwasanaethau gofal iechyd ac addysg yn fuddiol iawn i fyfyrwyr a staff Coleg Ceredigion.

Wedi’i ariannu gan Taith, fe ymunodd myfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol lefel tri â myfyrwyr mynediad i addysg uwch gwyddorau iechyd, i ymdrochi eu hunain yn y system addysg gofal iechyd yng Ngholeg NorQuest - arweinwyr mewn astudiaethau gofal iechyd.

Cynlluniwyd yr ymweliad nid yn unig fel ymarfer academaidd ond hefyd fel archwiliad cyfannol o arferion gofal iechyd ac astudiaethau brodorol.

Meddai Sara Jones, darlithydd mewn gwyddor iechyd yng Ngholeg Ceredigion: “Er ei ehangder daearyddol anferth, mae Alberta yn rhanbarth sy’n rhannu llawer o elfennau tebyg â Chymru o ran poblogaeth, heriau wrth gyflenwi gofal mewn mannau gwledig ac anghysbell, safbwyntiau brodorol, a chyfyngiadau ar y gyllideb gofal iechyd.

“Dros y flwyddyn, mae myfyrwyr wedi ymchwilio i gymhlethdodau cyllid a gweithrediadau o fewn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol, gan nodi’r heriau unigryw sy’n gysylltiedig â chyflenwi’r gwasanaethau hanfodol hyn yn rhanbarthau gwledig canolbarth Cymru.

“Er mwyn cyfoethogi eu dealltwriaeth o arferion gofal iechyd rhyngwladol ymhellach, cafodd y myfyrwyr gyfle i deithio dramor i ymweld â choleg partner rhyngwladol ac i ymchwilio i heriau sydd hefyd yn rhan o brofiad cyflenwi gwasanaethau gofal iechyd mewn rhannau eraill o’r byd.”

Dros yr wyth diwrnod, cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithgareddau er mwyn dod i adnabod Edmonton, fe wnaethant ymweld â Métis Crossing gan archwilio cymuned frodorol Métis a chael cipolwg ar arferion iechyd brodorol.

Treuliodd y myfyrwyr bum diwrnod academaidd dwys yng Ngholeg NorQuest a’i gyfleusterau gofal iechyd cyfagos. Yno, cawsant weld gymhlethdodau addysg gofal iechyd, gwasanaethau iechyd brodorol, ac amgylcheddau gofal iechyd efelychiadol yng Nghanolfan Efelychu Iechyd Olson, sy’n defnyddio efelychiad i wella diogelwch cleifion, ansawdd gofal, gofal iechyd, ac addysg gwasanaethau dynol.

Roedd ymweliadau pellach yn cynnwys Adeilad Deddfwrfa Alberta a Byd Gwyddoniaeth Telus, gan wella dealltwriaeth y grŵp o hanes gwleidyddol, gwyddoniaeth a thechnoleg mewn gofal iechyd.

I gloi’r ymweliad, cafodd y myfyrwyr gyfle i grwydro dinas Calgary cyn eu taith yn ôl i Gymru.

Ychwanegodd Sara Jones:  “Datblygodd y daith dros wyth diwrnod llawn hwyl, pob un yn cyfrannu at dapestri cyfoethog o brofiadau a oedd yn mynd y tu hwnt i ddysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth.”

Ers yr ymweliad ag Alberta, mae’r tîm yng Ngholeg Ceredigion wedi croesawu staff Cyfadran Astudiaethau Iechyd Coleg NorQuest a’i fyfyrwyr Nyrsio Ymarferol Trwyddedig a myfyrwyr Cynorthwyo Gofal Iechyd.

Aeth Coleg Ceredigion ati i hwyluso archwiliad y coleg o Ganada i addysg gofal iechyd a chyflenwi gwasanaethau iechyd yng nghanolbarth Cymru.

Nod yr ymweliad dwyochrog hwn, a ariannwyd gan Taith, oedd meithrin dysgu a chydweithio rhwng y sefydliadau yng Nghymru a Chanada ac roedd yn cynnwys tîm Gweithlu’r Dyfodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (HDdUHB) a gynorthwyodd ac a roddodd daith o amgylch Ysbyty Bronglais i’r ymwelwyr.

Yn ogystal, rhoddodd tîm Gwasanaethau’r Gymraeg HDdUHB gyflwyniad er mwyn rhoi cipolwg i’r myfyrwyr ar ddwyieithrwydd a phwysigrwydd y Gymraeg yn y bwrdd iechyd a’u gwasanaethau.

Ychwanegodd Sara Jones, darlithydd mewn gwyddor iechyd yng Ngholeg Ceredigion:  “Mae’r cydweithio rhwng cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol Coleg Ceredigion a’r Gyfadran Astudiaethau Iechyd yng Ngholeg NorQuest yn dyst i rym partneriaethau rhyngwladol wrth gyfoethogi addysg gofal iechyd.

“Mae ffocws Coleg NorQuest ar astudiaethau brodorol a’n pwyslais ni ar ddwyieithrwydd mewn gofal iechyd yn cyflwyno cyfleoedd unigryw ar gyfer integreiddio’r agweddau hollbwysig hyn i’n cwricwlwm.

“Trwy gymharu astudiaethau brodorol ac effaith dwyieithrwydd ar arferion gofal iechyd, ein nod yw datblygu fframwaith addysg gofal iechyd mwy cynhwysfawr ac ymatebol yn ddiwylliannol.

“Mae ein taith i Alberta a’r cydweithio dilynol wedi gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol lle mae addysg gofal iechyd yn mynd y tu hwnt i ffiniau daearyddol a diwylliannol.”

Meddai’r fyfyrwraig Beci Harrison: “Nid yn unig y mae’r tirweddau’n syfrdanol ond roedd pawb y gwnaethom gwrdd â nhw yn gyfeillgar hefyd.  Rhoddodd Coleg NorQuest yn Edmonton brofiad addysgol cyfoethog i ni a oedd yn wirioneddol anhygoel, profiad bythgofiadwy.”

Dywedodd Anna Smaldon-Hill:  “Roedd Alberta, Canada, mewn 10 diwrnod, yn dipyn o gorwynt.  Cefais fy nghyfoethogi gymaint gan wybodaeth a phrofiadau newydd, yn addysgol ac yn emosiynol. Mae’n adeg yn fy mywyd y byddaf yn ei gofio am amser maith; mae wedi cael effaith drawiadol arnaf, ac rwy’n meddwl y byddaf yn cymryd llawer o’r hyn a ddysgais i’m gyrfa yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Courtney Jones: “Roedd archwilio rhai o dirweddau syfrdanol Alberta yn brofiad hollol anhygoel, ac roedd ymgolli mewn ffordd o fyw a diwylliant gwahanol yn addysgiadol iawn.  Yn ogystal, roedd dysgu am y system gofal iechyd benodol a’r heriau unigryw y mae’n ei hwynebu yn Alberta yn arbennig o ddadlennol.”

Dywedodd Lowri Jones: “Profodd y daith yn sylweddol o drawsnewidiol i mi.  Fe wnaeth ymgysylltu â chymuned y Cenhedloedd Cyntaf a gweld ffyrdd o fyw parhaus y bobl frodorol hyn gyfoethogi yn fawr fy nealltwriaeth ddiwylliannol o rai o’r rhwystrau a wynebir wrth gael mynediad i wasanaethau gofal iechyd.”

three students in medical masks and hats in a selfie

Rhannwch yr eitem newyddion hon