Astudio Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Ydych chi’n frwdfrydig am wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Allwch chi aros yn ddigynnwrf dan bwysau? Ydych chi am gael gyrfa sy’n ymroddedig i helpu eraill? Os felly, gallai ein cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion fod yn berffaith i chi.
Bydd ein cyrsiau deinamig yn rhoi’r llwybr perffaith i chi fynd i mewn i faes amrywiol a gwerth chweil y Gwasanaethau Cyhoeddus a gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd mewn sectorau amrywiol fel yr heddlu, y lluoedd arfog, y gwasanaethau brys, ac asiantaethau’r llywodraeth.
Ar ein cyrsiau, byddwch nid yn unig yn ennill dealltwriaeth ddofn o’r sector cyhoeddus, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel gweithio mewn tîm, trefnu a chyfathrebu, sy’n werthfawr iawn yn y gweithle, addysg uwch a thu hwnt.
Mae gennym ni gysylltiadau cryf â gwasanaethau lleol gan gynnwys yr heddlu, y frigâd dân, y gwasanaethau arfog a’r RNLI, felly byddwch chi’n cael profiad ymarferol ac yn ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig. Gall y cyfleoedd rhwydweithio hyn eich helpu i adeiladu cysylltiadau proffesiynol gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.
Felly os oes gennych ddiddordeb ym maes gorfodi’r gyfraith, rheolaeth frys, gwasanaethau milwrol neu wirfoddoli, gwnewch gais am gwrs Gwasanaethau Cyhoeddus nawr, dewch draw i ddiwrnod agored a chychwyn ar eich taith i lwyddiant yn y maes hollbwysig hwn.