Skip page header and navigation

Astudio Addysg ac Addysgu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

Myfyrwyr mewn dosbarth gyda athrawes

Ydych chi’n frwd dros siapio meddyliau ifanc, gwneud gwahaniaeth, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf?  Astudiwch gwrs Addysg ac Addysgu yng Ngholeg Sir Gâr a dechreuwch eich taith tuag at yrfa werth chweil fel addysgwr.

Ar ein cyrsiau addysgu, byddwch yn dysgu celfyddyd a gwyddor addysgu gan ddarlithwyr profiadol sy’n ymroddedig i’ch llwyddiant.  O reoli ystafell ddosbarth i gynllunio cwricwlwm, byddwch yn ennill sgiliau ymarferol a mewnwelediadau amhrisiadwy a fydd yn eich paratoi i greu profiadau dysgu diddorol ac effeithiol.  Byddwch yn dysgu deall anghenion dysgu unigol, ac yn creu amgylchedd meithringar a chynhwysol lle gall pob myfyriwr ffynnu.

Mae gyrfa mewn addysgu ac addysg yn cynnig boddhad, twf, a’r cyfle i wneud gwahaniaeth parhaol yn y byd.  P’un a ydych yn breuddwydio am ddod yn gynorthwyydd dosbarth, athro ysgol neu ddarlithydd, bydd ein cyrsiau’n rhoi i chi’r wybodaeth, y sgiliau, a’r brwdfrydedd i ysbrydoli cariad at ddysgu yn eich darpar fyfyrwyr.

Felly, os ydych yn barod i rymuso eraill trwy rym addysg, ymunwch â ni mewn diwrnod agored, ewch ati i gwblhau ffurflen gais a gyda’n gilydd, gadewch i ni ddechrau ar daith o ddarganfod a thwf.