Academi Bêl-rwyd Coleg Sir Gâr
Introduction
Yn Academi Bêl-rwyd Coleg Sir Gâr, rydyn ni’n ymroddedig i feithrin talent a brwdfrydedd am bêl-rwyd o fewn amgylchedd addysgol o’r radd flaenaf. A hithau wedi’i lleoli yng nghanol Cymru, mae ein hacademi yn enwog am ei chyfleusterau eithriadol, ei staff hyfforddi arbenigol, a’i dull cyfannol sy’n cydbwyso eich hyfforddiant athletaidd â rhagoriaeth academaidd.
Mae gan ein hacademi rai o’r cyfleusterau chwaraeon gorau yn y rhanbarth. Y canolbwynt yw ein neuadd chwaraeon eang, wedi’i chyfarparu â’r dechnoleg cwrt pêl-rwyd ddiweddaraf, sy’n darparu’r lleoliad perffaith ar gyfer hyfforddi a chystadlu hefyd. Gerllaw hon mae ein hystafell bwysau fodern sy’n cynnwys cyfarpar ffitrwydd arloesol wedi’u teilwra ar gyfer rhaglenni cryfder a chyflyru sy’n gwella datblygiad corfforol a pherfformiad.
Yn eich arwain bydd tîm o hyfforddwyr tra chymwys, pob un â phrofiad helaeth o chwarae a hyfforddi pêl-rwyd ar lefelau uchel. Mae ein hathroniaeth hyfforddi yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau, dealltwriaeth dactegol, a gwytnwch meddyliol pob chwaraewr. Yn ychwanegol at ein staff hyfforddi, rydyn ni’n darparu cymorth ffisiotherapi cynhwysfawr i sicrhau eich bod yn derbyn y gofal gorau ar gyfer atal anafiadau ac adferiad, gan wneud y gorau o’ch canlyniadau hyfforddi a pherfformiad.
Yn Academi Bêl-rwyd Coleg Sir Gâr, rydyn ni’n credu ym mhwysigrwydd addysg gyflawn. Mae ein dull cyfannol yn sicrhau eich bod yn rhagori nid yn unig ar y cwrt ond eich bod hefyd yn cyflawni’n academaidd. Cynigiwn ystod o raglenni academaidd sy’n eich galluogi i ddilyn eich astudiaethau ar y cyd â’u hamserlenni hyfforddi. Mae ein rhaglenni addysgol yn hyblyg ac yn darparu ar gyfer gofynion hyfforddiant chwaraeon lefel uchel wrth sicrhau eich llwyddiant academaidd hefyd.
Llwyddiannau athletaidd diweddar myfyrwyr
Aethom ati’n falch i ddathlu cyflawniadau cyn-fyfyrwyr sydd wedi bod trwy’r Academi. Mae straeon llwyddiant diweddar yn cynnwys Casey Rumbelow ac Ellie Grant, a wnaeth ragori gyda Dreigiau Caerdydd dan 23 oed a Nia Bullen, sydd wedi cynrychioli Cymru yn y tîm pêl-rwyd dan-19.