
Academi Rygbi Coleg Sir Gâr
Introduction
Yn Academi Rygbi Coleg Sir Gâr, rydyn ni’n ymrwymedig i feithrin ein chwaraewyr ifanc, gan sicrhau eich bod yn derbyn cefnogaeth gynhwysfawr i ragori ar y cae ac i ffwrdd o’r cae. Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi cynhyrchu 19 o fabolgampwyr rhyngwladol gwrywaidd a 2 fenywaidd, yn ogystal â thri o Lewod Prydain ac Iwerddon: Adam Jones, Gareth Davies, a Josh Adams.
Mae gennym berthynas hirsefydlog a chynhyrchiol gyda’r Scarlets a ddechreuodd pan lansiwyd yr Academi yn yr haf 2000. Mae’r cydweithrediad wedi bod yn fuddiol i’r ddau sefydliad ac mae’n parhau i’n helpu gwella datblygiad a llwyddiant ein hathletwyr.
Yn Academi Rygbi Coleg Sir Gâr, rydyn ni’n pwysleisio pwysigrwydd eich paratoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i’ch gyrfa chwarae broffesiynol. Mae ein hacademi’n gwneud yn siŵr y byddwch yn derbyn addysg gyflawn, gan gynnig ystod o gyrsiau o Safon Uwch i gyrsiau galwedigaethol lefel mynediad. Bydd yr agwedd gyfannol hon yn eich helpu i gyrraedd eich potensial llawn yn yr ystafell ddosbarth ac ar y cae rygbi hefyd.
Rydyn ni wedi gweithio’n galed i adeiladu enw da am ragoriaeth chwaraeon ac rydyn ni’n ymrwymedig i ddarparu’r cyfleusterau, adnoddau a chefnogaeth orau sydd ar gael i’r cenedlaethau nesaf o chwaraewyr rygbi talentog.



