Polisi a Gweithdrefn Apeliadau Academaidd
2023 - 2026
Introduction
-
Mae gan bob dysgwr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad asesu. Os digwydd i ddysgwr fod yn anfodlon gyda chanlyniad asesu neu radd ar gyfer gwaith a aseswyd yn fewnol, bydd y rheoliadau a’r gweithdrefnau a welir isod yn berthnasol.
-
Mae’r Coleg yn ymrwymedig i ddarparu proses asesu deg a thryloyw i’r holl ddysgwyr a’u gwneud yn ymwybodol ohoni. Bydd y dysgwyr yn cael gwybod am y broses apeliadau academaidd a’r broses asesu ar ddechrau eu rhaglen astudio a chaiff cynllun asesu ei rannu gyda’r dysgwr ar ddechrau a thrwy gydol y cwrs pan fo’n briodol.
Pwrpas y polisi hwn yw cyfathrebu’r prosesau a’r gweithdrefnau sy’n sail i’r broses apelio.
-
-
Datblygwyd y polisi hwn ar lefel Rheolwyr y Coleg ac fe’i cymeradwywyd gan yr Adran Weithredol a’r Llywodraethwyr.
-
Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei wneud arno.
- Mae Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg wedi cael ei wneud arno.
-
-
-
Ar holl gamau’r apêl, rhaid i’r gweithdrefnau gael eu dogfennu’n glir gan ddangos graddfeydd amser a chanlyniadau realistig.
-
Gall dysgwr sydd wedi derbyn canlyniad asesu am waith ac sydd yn dymuno herio’r canlyniad asesu hwnnw wneud hynny os yw ef/hi yn credu bod:
-
Y gwaith heb gael ei farcio yn unol â’r meini prawf y cytunwyd arnynt o flaen llaw;
-
Bod yna beth gwahaniaethu wedi bod wrth benderfynu ar y canlyniad asesu am resymau personol;
-
Nid yw’r gwaith wedi cael ei osod, ei farcio a’i ddychwelyd o fewn y raddfa amser y cytunwyd arni ar gyfer y cwrs;
-
Bod y modd y cynhaliwyd yr asesiad heb fod yn deg;
-
Bod digonolrwydd y cyfleoedd a gynigiwyd er mwyn gallu dangos cymhwysedd neu gyflawniad wedi bod yn gyfyngedig i’r graddau bod y canlyniad y daethpwyd iddo yn annheg.
-
-
Dylai’r cam cyntaf fod yn drafodaeth rhwng y dysgwr a’r darlithydd/tiwtor dan sylw, a ddylai gael ei chynnal o fewn 5 diwrnod gwaith i ddychwelyd y penderfyniad asesu. Diben y drafodaeth hon fydd datrys y mater(ion) a godwyd gan y dysgwr yn gynnar os yn bosibl.
-
Os nad yw’r mater wedi cael ei ddatrys gyda’r aseswr, dylai’r dysgwr drafod y mater gyda’r person Sicrhau Ansawdd Mewnol penodol o fewn cyfnod pellach o 5 diwrnod gwaith.
-
Os yw’r dysgwr yn parhau i fod yn anfodlon gyda chanlyniad y drafodaeth hon yna dylai ef/hi drafod y mater ymhellach gydag aelod o Dîm Rheoli’r Gyfadran cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl ond o fewn cyfnod o 10 diwrnod gwaith o’r cyfarfod gyda’r tiwtor/darlithydd.
-
Os yw’r mater(ion) a godwyd yn dal heb gael ei ddatrys mewn modd boddhaol neu dderbyniol, yna dylai’r aelod o Dîm Rheoli’r Gyfadran dan sylw roi gwybod i’r dysgwr am y weithdrefn ar gyfer gwneud cais ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr yn amlinellu ei gŵyn/ei chwyn. Bydd y Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr yn trefnu i gwrdd â’r dysgwr a’r aelod o Dîm Rheoli’r Gyfadran dan sylw o fewn graddfa amser y cytunwyd arni ar y cyd ond heb fod mwy na 10 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad y cais ysgrifenedig. Gall y dysgwr ddod â ffrind, rhiant neu warcheidwad, cyflogwr neu gynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr gydag ef i’r cyfarfod hwnnw.
-
Os yw’r mater(ion) yn dal heb gael ei ddatrys ar ôl y camau uchod, a bod y dysgwr yn dymuno dilyn apêl bellach, yna byddant yn hysbysu’r Is-bennaeth ar gyfer Cwricwlwm ac Ansawdd o fewn 5 diwrnod gwaith i’w cyfarfod. Bydd yr Is-bennaeth ar gyfer Cwricwlwm ac Ansawdd yn rhoi gwybod i’r Pennaeth a fydd o fewn 10 diwrnod gwaith yn trefnu bod y Panel Apeliadau yn cyfarfod.
-
-
GWEITHDREFNAU’R PANEL APELIADAU
5.1.1 Yn dilyn y gweithdrefnau a amlinellir yn adran 4 y polisi hwn, bydd y Pennaeth yn galw cyfarfod o’r Panel Apeliadau ac yn dosbarthu i’r aelodau fanylion am y darn gwaith asesedig y mae anghydfod yn ei gylch. Bydd y dysgwr yn cael ei hysbysu ddim llai na 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod a rhaid iddo nodi wrth swyddfa’r Pennaeth ei fwriad/ei bwriad i fynychu.
5.1.2 Bydd cyfansoddiad y panel fel a ganlyn: -
- Y Pennaeth neu Uwch Reolwr arall nad yw wedi bod yn gysylltiedig yn flaenorol (Cadeirydd);
- Aelod o Dîm Rheoli’r Gyfadran nad yw wedi bod yn gysylltiedig â’r broses yn flaenorol;
- Cynrychiolydd myfyrwyr; a
- Pherson Sicrhau Ansawdd Mewnol, os yw’n briodol.
5.1.3 Gweithdrefnau’r Panel:
- Yn gyntaf, bydd y panel yn clywed gan y dysgwr neu ei gynrychiolydd/ei chynrychiolydd ynglŷn â natur yr apêl.
- Gall y panel wedyn glywed gan unrhyw berson arall y mae’n barnu ei fod yn briodol.
- Dim ond y cadeirydd all alw ar unrhyw gyfranwyr perthnasol ychwanegol.
- Bydd penderfyniad y Cadeirydd ar unrhyw fater o weithdrefn yn derfynol.
- Gall y Cadeirydd ohirio’r cyfarfod i alluogi cymryd camau tuag at egluro pwynt ffeithiol yr anghytunir yn ei gylch sy’n berthnasol i’r apêl neu’r mater(ion) gwreiddiol a godwyd ac sy’n ffurfio rhan o’r apêl.
- Gall y Cadeirydd benderfynu ceisio barn y dilysydd allanol/person sicrhau ansawdd, aseswr neu gymedrolwr, os yw’r rhain wedi bod yn gysylltiedig o’r blaen â chamau cynharach y broses.
- Bydd y panel yn dod i benderfyniad heb unrhyw berson/au arall yn bresennol.
5.1.4 Wrth benderfynu, bydd y panel yn ceisio gweithredu er lles y dysgwr dan sylw yn ogystal â sicrhau bod safonau academaidd rhaglenni astudio’r Coleg yn cael eu cynnal. Rhoddir gwybod am benderfyniadau’r panel i’r dysgwr, y tiwtor, Rheolwr y Gyfadran, a’r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr yn ysgrifenedig o fewn 24 awr i’r cyfarfod.
5.2 APELIADAU AT SEFYDLIADAU DYFARNUMae gan bob myfyriwr yr hawl hefyd i apelio at Sefydliadau Dyfarnu
Os yw pennaeth canolfan neu ymgeisydd preifat yn anhapus gyda chanlyniadau arholiad a bod ganddo/ganddi resymau dros amau efallai nad ydynt yn gywir, y cam cyntaf i’w gymryd yw gwneud ymholiad am y canlyniadau.
Dylai ymgeiswyr gysylltu â’u tiwtoriaid, rheolwr cwricwlwm a’r swyddog arholiadau sydd â chyfrifoldeb am weinyddu arholiad neu asesiad y cymhwyster, ar unwaith.
Gall methu ag ymateb ar unwaith arwain at golli’r apêl oherwydd cyfyngiadau amser a ddarperir gan y Corff Dyfarnu.
Rhoddir manylion llawn am ymholiadau ynglŷn â gwasanaethau ôl-ganlyniadau yng nghyhoeddiad y JCQ Post-Results Services – Information and guidance to centres https://www.jcq.org.uk/exams-office/post-results-services neu maent ar gael ar wefannau’r cyrff dyfarnu.