Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
2023- 2027
Introduction
-
-
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (Y Coleg) yn gweithio tuag at greu amgylchedd gwaith a dysgu cefnogol a chynhwysol sy’n rhydd o wahaniaethu, lle ceir parch y naill at y llall a chydraddoldeb i bawb, a lle caiff gwahaniaethau eu dathlu a’u parchu. Mae’r Coleg yn ymfalchïo yn ei amrywiaeth ac mae’n gwerthfawrogi’r ffordd y mae hyn yn cyfoethogi bywydau pawb yn ei gymuned.
- Mae’r polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) wedi’i osod o fewn cyd-destun cenhadaeth, gwerthoedd, ymddygiadau a blaenoriaethau strategol y coleg. Mae’r Coleg yn datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol (SEAP) gydag amcanion a osodir ac a gyhoeddir ar gyfnodau o bedair blynedd. Cânt eu cyfeirio gan gynllun gweithredu cynhwysfawr EDI sydd hefyd yn rhoi nodau’r polisi hwn ar waith, ac sy’n cael ei fonitro gan y pwyllgor EDI, y Bwrdd Ansawdd a’r Pwyllgor Llywodraethu Dysgwyr a Safonau.
-
-
-
Mae’r Polisi EDI yn gosod allan gofynion a chyfrifoldebau’r coleg ar gyfer sicrhau a hybu cydraddoldeb i holl fudd-ddeiliaid cymuned y coleg yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus 2011.
-
Mae’r polisi yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag at gynhwysiant ac amrywiaeth er mwyn creu amgylchedd lle mae pawb yng nghymuned y Coleg yn gallu cyfranogi a chyflawni eu potensial. Mae’n ceisio sicrhau na chaiff unrhyw berson ei drin yn llai ffafriol neu’n anffafriol ar sail unrhyw un o’r nodweddion gwarchodedig (gweler isod);
-
oedran
-
ailbennu rhywedd
-
bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
-
bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth
-
anabledd
-
hil gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol
-
crefydd neu gred
-
rhyw
-
-
Mae cyfrifoldeb ar holl gymuned y coleg i gynnal y polisi hwn, hybu cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu, troseddau casineb, aflonyddu ac erledigaeth.
-
-
-
Mae’r polisi’n cwmpasu holl feysydd y Coleg ac mae’n berthnasol i holl fudd-ddeiliaid cymuned y Coleg.
-
Dysgwyr - Holl ddysgwyr Llawn Amser, Rhan-amser, Ysgol, Addysg Bellach ac Addysg Uwch a Phrentisiaid.
-
Staff - Holl staff Llawn Amser, Rhan-amser, a staff a Is-gontractiwyd.
- Ymwelwyr - Bydd y Coleg yn trin ymwelwyr gyda’r un parch a ddangosir i staff a dysgwyr, yn yr un modd nid yw’n dderbyniol i staff neu ddysgwyr gael eu trin yn amharchus gan ymwelwyr.
-
-
Mae gan nifer o grwpiau ac unigolion rolau allweddol yn natblygiad a gweithrediad y polisi hwn:
-
Mae gan Fwrdd y Gorfforaeth atebolrwydd ar gyfer cymeradwyo’r polisi ac am sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag amcanion strategol y coleg.
-
Mae’r Prif Weithredwr / Pennaeth a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn gyfrifol am sicrhau:
-
Bod y coleg yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â chydraddoldeb.
-
Eu bod yn hyrwyddo’r polisi EDI a chamau gweithredu cysylltiedig
-
Bod gan y Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr gyfrifoldeb dynodedig ar gyfer EDI a’i fod yn cadeirio’r pwyllgor EDI.
-
-
Mae’r Pwyllgor EDI yn gyfrifol am gefnogi rhoi’r polisi EDI ar waith ar draws y coleg;
-
Trwy gyfarfod 3 gwaith bob blwyddyn academaidd, sy’n sicrhau bod ganddo gynrychiolwyr staff, undeb a dysgwyr.
-
Gosod a monitro’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol (SEAP)
-
Gwerthuso data EDI ar staff a dysgwyr, ac amlygu unrhyw feysydd i’w datblygu.
-
Hwyluso gweithgorau mewnol i ddatblygu meysydd gwaith penodol sydd wedi’u hamlygu fel meysydd i’w datblygu.
-
Cefnogi’r coleg i greu amgylchedd cynhwysol ac amrywiol.
-
Cefnogi’r coleg i gyflawni ei ddyletswyddau statudol a’i ddyletswydd gyhoeddus gan gynnwys gwybodaeth ac adroddiadau cydraddoldeb blynyddol.
-
Darparu cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar gymhwyso’r polisi hwn i’r holl fudd-ddeiliaid.
-
Cysylltu â chyrff cydraddoldeb priodol.
-
Comisiynu hyfforddiant a datblygiad perthnasol er mwyn gweithredu’r polisi a’r cynllun gweithredu.
-
-
Mae’r holl reolwyr yn gyfrifol am sicrhau:
-
Bod gan staff ddealltwriaeth glir o ymagwedd y coleg tuag at EDI a’u bod yn nodi datblygiad staff yn ôl yr angen.
-
Bod staff wedi cwblhau hyfforddiant gorfodol EDI yn ystod y cyfnod cynefino ac unrhyw hyfforddiant dilynol.
-
Bod bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn cael eu trin mewn modd effeithiol.
-
Bod hiliaeth a throseddau casineb yn cael eu rheoli’n effeithiol ac eir ati i ddod i ben â nhw.
-
Bod EDI wedi’i ymgorffori ym mhob gweithgaredd gan gynnwys addysgu a dysgu.
-
Eu bod i bob pwrpas yn arwain trwy enghraifft o ran trin yr holl staff a dysgwyr gydag urddas a pharch a bod yn deg a rhesymol yn eu hagweddau a’u hymddygiadau.
-
-
Mae holl aelodau cymuned y Coleg yn gyfrifol am sicrhau:
-
Bod y polisi yn cael ei ddeall a’i weithredu ( cael ei rannu fel rhan o’r broses gynefino).
-
Bod Ymddygiad, Gweithredoedd a chyfathrebiadau bob amser yn ystyried unigrywiaeth eraill a’n cymuned.
-
Bod pawb yn cael eu trin â pharch, cwrteisi ac urddas.
-
Bod Ymddygiad, Gweithredoedd a chyfathrebiadau nad ydynt yn unol â’r Polisi EDI yn cael eu herio ac y gweithredir arnynt.
-
-
-
-
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ymrwymedig i ddarparu addysgu a dysgu Rhagorol a Phrofiad Dysgu Ysbrydoledig. I gyflawni’r nod hwn rhaid bod EDI wedi’i ymgorffori yn niwylliant y coleg. Felly mae blaenoriaethau’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol yn cyd-fynd â, ac yn tanategu, cynllunio gweithredol a strategol y coleg ar bob lefel.
-
Mae ymrwymiad y coleg i hybu cydraddoldeb fel cyflogwr a darparwr addysg yn mynd y tu hwnt i gydymffurfiad deddfwriaethol er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn llawn, beth bynnag fo’u cefndir neu nodweddion personol.
-
Mae’r coleg yn credu’n gryf bod amrywiaeth ei gymuned yn un o’i gryfderau mwyaf a’i asedau mwyaf gwerthfawr.
-
Bydd y coleg yn cydymffurfio â’i gyfrifoldebau cyfreithiol i gyflawni cyfrifoldebau sector cyhoeddus penodol a hefyd cyffredinol.
-
Bydd y coleg yn monitro holl agweddau poblogaethau staff a dysgwyr. Caiff data ei fonitro er mwyn sicrhau bod gwasanaethau a gweithgareddau yn briodol, yn sensitif ac yn diwallu anghenion unigol. Bydd y coleg yn cymryd mesurau priodol i ddiogelu data sensitif personol, gan gynnwys cyfyngu mynediad a lle bo’n bosibl gwneud data’n ddi-enw gan roi sylw priodol i egwyddorion diogelu data.
Bydd y pwyllgor EDI yn edrych ar ddata dysgwyr (cofrestru a llwyddiant) yn yr ail gyfarfod blynyddol a data Staff yn y trydydd cyfarfod bob blwyddyn (meysydd data i’w pennu). I gynnwys sgiliau Iaith Gymraeg.
-
Bydd y coleg yn cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar unrhyw bolisïau neu weithdrefnau newydd neu newidiadau arfaethedig i bolisïau a gweithdrefnau, fel modd i nodi unrhyw effaith andwyol ac i archwilio datrysiadau posibl i leihau’r rhain. Bydd Uwch Arweinydd yn eu cadeirio, ond nid perchennog y Polisi.
-
Bydd y coleg yn gwneud addasiadau ar gyfer yr holl fudd-ddeiliaid (dysgwyr, staff, contractwyr ac ymwelwyr) yn unol ag unrhyw nodweddion gwarchodedig ac anghenion a nodir lle bynnag y bo’n bosibl ac yn rhesymol.
-
Nod y coleg yw darparu cwricwlwm ymatebol sy’n cynnig y wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth i ddysgwyr sydd eu hangen arnynt i fyw mewn cymdeithas fyd-eang a gweithio mewn economi byd-eang cystadleuol. Mae’r coleg yn sicrhau bod mynediad i wasanaethau cymorth yn greiddiol i gyflwyniad y cwricwlwm, gan gynnwys cymorth dysgu a ble bo’n ofynnol llythrennedd a rhifedd, gan gynnwys sgiliau iaith Gymraeg.
-
Mae’r coleg yn ymrwymedig i ddatblygu a chyflwyno ystod o gyfleoedd hyfforddiant ar gyfer staff a dysgwyr, yn ychwanegol i ystod o adnoddau i gefnogi dealltwriaeth o gyfrifoldebau unigol.
-
Nod y coleg yw sicrhau bod ei ddyletswydd i hybu a hyrwyddo EDI yn ymestyn i’r sefyllfaoedd hynny lle mae wedi’i is-gontractio i eraill.
-
Gall y coleg gymryd camau cadarnhaol cyfreithiol i hybu cydraddoldeb. Gall hyn fod o ran darpariaeth cyfleusterau neu wasanaethau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau penodol a dangynrychiolir neu i dargedu hyfforddiant gwaith a/neu gyfleoedd addysgol tuag at grwpiau penodol a dangynrychiolir mewn maes gwaith neu faes astudio penodol. Bydd y coleg yn sicrhau y bwriedir unrhyw strategaethau gweithredu cadarnhaol i fod yn fesurau dros dro yn unig ac ni chânt eu defnyddio unwaith bod yr anghenion arbennig wedi cael eu diwallu neu os yw tangynrychiolaeth ddim yn bodoli mwyach.
-
Mae’r coleg yn ymrwymedig i ddileu unrhyw ffurf o wahaniaethu trwy herio anghydraddoldeb, rhagfarn a gwahaniaethu boed yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol, trwy gysylltiad neu drwy ganfyddiad.
-
-
-
Nod y coleg yw sicrhau bod y polisi hwn yn gwbl effeithiol a bod holl aelodau cymuned y coleg yn ymrwymedig iddo. Mae’r coleg yn ymgymryd i weithio mewn partneriaeth â staff, dysgwyr, undebau llafur, a budd-ddeiliaid wrth ei ddatblygu a’i roi ar waith.
-
Bydd y coleg yn cynyddu ymwybyddiaeth staff a dysgwyr o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy ystod o ddulliau gan gynnwys drwy: ei bolisïau; trwy diwtorialau; adborth staff a dysgwyr; hyfforddiant a datblygiad gan gynnwys Diwrnodau Datblygiad Proffesiynol Parhaus y coleg (ar gyfer staff); hyrwyddo mewnol ac allanol a gweithgareddau blynyddol. Bydd EDI yn chwarae rhan allweddol mewn adolygiadau cwrs, hunanasesiadau a chanlyniadau adrannau.
- Caiff gweithdrefnau ar gyfer adrodd am fwlio, hiliaeth, gwahaniaethu, ymddygiad annerbyniol neu unrhyw droseddau casineb eu sylwi.
-
-
7.1 Gweithredir y polisi hwn yn llawn drwy’r canlynol:
- Ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn llwyr mewn addysgu, dysgu ac asesu.
- Holl fudd-ddeiliaid cymuned y coleg i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn weithredol ac yn effeithiol o ganlyniad i hyfforddiant a datblygiad effeithiol sy’n cefnogi rhoi’r polisi hwn a’r cynllun gweithredu Cydraddoldeb Strategol ar waith.
- Caiff data ei fonitro yn y pwyllgor EDI ac fe fydd yn arwain at gamau perthnasol i ddysgwyr a staff fel ei gilydd.
- Gwrandewir ar farn staff a dysgwyr a dangosir diwylliant EDI cadarnhaol.
- Caiff y coleg ei gydnabod yn allanol am ei ymrwymiad i EDI.
-
-
Mae’r coleg yn cymryd methiant i gadw at y polisi hwn o ddifri a bydd adroddiadau o ddiffyg cydymffurfio yn cael eu hymchwilio. Mae’r coleg yn argymell yn gryf bod materion neu gwynion yn cael eu datrys yn anffurfiol ac yn lleol; fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae’r coleg yn cadw’r hawl i ddefnyddio gweithdrefnau disgyblu perthnasol.
-
Ni chaiff unrhyw aelod o gymuned y coleg ei erlid o ganlyniad i roi gwybodaeth am unrhyw weithred gan berson sy’n mynd yn groes i’r polisi hwn.
- Ymdrinnir ag unigolion sy’n gwneud honiadau a brofir i fod yn ffug, yn unol â gweithdrefnau disgyblu’r coleg, fel hefyd unrhyw berson sy’n bwlio neu’n aflonyddu ar berson arall y maen nhw’n credu sydd wedi gwneud cyhuddiad yn ei erbyn.
-