Skip page header and navigation

Introduction

Polisi’r Coleg y cytunwyd arno mewn perthynas ag amheuaeth o gamymddwyn mewn arholiadau’r Coleg - Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (Chwythu’r Chwiban)

  1. RHAGARWEINIAD

Mae’r polisi hwn yn bennaf ar gyfer staff canolfannau a all fod yn dyst i gamymddwyn mewn arholiadau ac asesiadau. Mae diogelwch ac uniondeb arholiadau ac asesiadau yn hanfodol er mwyn cynnal hyder y cyhoedd mewn cymwysterau. Mae ymagwedd y cyrff dyfarnu at gamymddwyn wedi’i nodi yn nogfen Amau Camymddwyn y CGC. Mae dogfen y CGC ar gyfer Amau Camymddwyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Coleg gyfeirio camymddwyn at gyrff dyfarnu.

Mae’r polisi cytunedig hwn yn rhan o ddull ehangach a nodir yn Neddf Datgelu er Lles y Cyhoedd - Polisi Chwythu’r Chwiban y Coleg a dylid ei ddarllen ar y cyd â hynny.

  1. BETH DDYLECH CHI EI WNEUD OS GWELWCH GAMYMDDWYN YN DIGWYDD MEWN ARHOLIADAU NEU ASESIADAU?

Os ydych chi’n gweithio yn y Coleg neu’n ymwneud ag arholiadau neu asesiadau a’ch bod chi’n dyst i weithgarwch rydych yn pryderu y gallai fod yn gamymddwyn, rhaid i chi weithredu arno ac adrodd am yr hyn rydych chi’n dyst iddo wrth y Swyddog Arholiadau ar gampws y Coleg rydych chi’n dyst iddo. Os nad ydych yn siŵr pwy yw hwn, ewch i Swyddfa’r Campws a byddant yn eich cynghori.

Os ydych chi’n ymgeisydd neu’n aelod o’r cyhoedd, dylech roi gwybod i’r Swyddog Arholiadau ar gampws y Coleg lle rydych chi’n dyst iddo. Os nad ydych yn siŵr pwy yw hwn, ewch i Swyddfa’r Campws a byddant yn eich cynghori.

Gallwch hefyd gyfeirio eich pryder at y corff dyfarnu (gweler isod) os oes angen, ond byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn adrodd wrth Swyddog Arholiadau’r Coleg yn y lle cyntaf.

  1. BETH OS YDYCH YN PRYDERU AM DDIAL AM ADRODD AM AMHEUAETH O GAMYMDDWYN?

Os ydych yn gweithio yn y Coleg neu’n ymwneud ag arholiadau neu asesiadau, mae’r Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (PIDA) yn cynnig amddiffyniad cyfreithiol i chi rhag cael eich diswyddo neu eich cosbi am godi rhai pryderon difrifol (hynny yw, chwythu’r chwiban). O ystyried pwysigrwydd uniondeb y system cymwysterau, mae amheuaeth o gamymddwyn yn debygol o fod yn bryder difrifol.

Mae gan y Coleg bolisi Datgelu er Lles y Cyhoedd (polisi Chwythu’r Chwiban) ehangach a gymeradwyir gan ei Gorff Llywodraethu a dylid darllen y weithdrefn hon ar y cyd â hynny.

Os nad ydych yn teimlo’n ddiogel yn codi’r mater o fewn y Coleg, neu os ydych wedi gwneud hynny ac yn pryderu nad oes unrhyw gamau wedi’u cymryd, gallwch ystyried gwneud eich datgeliad i ‘unigolyn rhagnodedig’ – sy’n cynnwys Ofqual a Chymwysterau Cymru (y rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr yn y drefn honno).

Manylir ar y rhestr lawn o bobl ragnodedig a chyrff yn y canllaw hwn:

GovUK: Chwythu’r chwiban - rhestr o bobl ragnodedig a chyrff

  1. GYDA PHWY YDYCH CHI’N SIARAD A BETH FYDD YN DIGWYDD OS YDYCH YN CYSYLLTU Â’R CORFF DYFARNU?

Mae gan bob corff dyfarnu staff sy’n delio â chamymddwyn. Gallwch siarad â nhw yn gyfrinachol ac egluro eich pryderon. Fodd bynnag, gan nad yw cyrff dyfarnu yn gyrff rhagnodedig fel y’u diffinnir gan y PIDA, ni allant addo’r amddiffyniadau cyfreithiol a nodir yn PIDA i chi. Fodd bynnag, bydd y corff dyfarnu yn:

  • deall y sefyllfa anodd yr ydych ynddi;
  • meddu ar brofiad o sefyllfaoedd tebyg;
  • esbonio pwysigrwydd tystiolaeth ategol a
  • nodi’r math o dystiolaeth a allai fod o gymorth yn eich achos penodol.

Bydd y corff dyfarnu yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu eich hunaniaeth, os mai dyna yr ydych yn dymuno, oni bai bod rhwymedigaeth gyfreithiol i’w rhyddhau (er enghraifft, yn ystod ymchwiliad heddlu). Dylech fod yn ymwybodol na fydd yn bosibl i’r corff dyfarnu roi adroddiad i chi ar gasgliadau neu ganlyniad unrhyw ymchwiliad a all ddilyn.

Bydd pa gorff dyfarnu y cysylltir ag ef yn dibynnu ar y cymhwyster lle amheuir camymddwyn. Gallwch gysylltu ag arbenigwr camymddwyn o fewn y corff dyfarnu penodol fel y dangosir isod:

AQA

irregularities@aqa.org.uk

0161 958 3736

CCEA

malpractice@ccea.org.uk

028 90 261200 ext 2203

City & Guilds

investigationandcompliance@cityandguilds.com

020 7294 2775

Pearson

pqsmalpractice@pearson.com

020 7190 4455

OCR

malpractice@ocr.org.uk

01223 553 998

WJEC

malpractice@wjec.co.uk

029 20265448

NCFE

CustomerCompliance@ncfe.org.uk

0191 239 8000

Efallai y bydd y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol i chi hefyd: