Skip page header and navigation
Students in the university theatre listening to degree students experiences who are all dressed in blue scrubs

Gwnaeth myfyrwyr Safon Uwch â diddordeb yn y sector gofal iechyd ddechrau eu blwyddyn gyntaf yn y coleg gydag ymweliad â Phrifysgol Abertawe, fel rhan o bartneriaeth Rhaglen Maes Meddygol y coleg.

Mae’r rhaglen hon, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, wedi’i hanelu at fyfyrwyr sydd am archwilio tu hwnt i rôl draddodiadol meddyg ac edrych ar yrfaoedd yn cynnwys biocemeg, awdioleg, geneteg, radiograffeg a theatr.  

Roedd yr ymweliad yn cynnwys tro o gwmpas Athrofa Gwyddor Bywyd Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe lle bu myfyrwyr yn siarad â myfyrwyr gradd sy’n gweithio yn y GIG ac yn hyfforddi fel ymarferwyr adran lawdriniaeth, a adnabyddir yn fwy cyffredinol fel ODPs. 

Dangoson nhw’r theatr feddygol i’r myfyrwyr lle maen nhw’n hyfforddi, sonion nhw am eu hastudiaethau a’u profiadau lleoliad gwaith mewn amrywiol sefyllfaoedd meddygol a sefydliadau.

Hefyd yn gynwysedig roedd dangosiad o Swît Efelychu Prifysgol Abertawe (SUSIM), sy’n ganolfan ddysgu drochol sy’n defnyddio technoleg i ategu hyfforddiant. Er enghraifft, gall osod cefndir stryd penodol i senario hyfforddi trwy ddarparu sain, delweddau a hyd yn oed arogl, i efelychu amgylchedd go iawn, ac ychwanegu, er enghraifft, pwysau sŵn traffig ac ymateb dwysach y cyhoedd mewn sefyllfa o argyfwng. 

Dr Susan Ford, darlithydd Safon Uwch Coleg Sir Gâr, sy’n arwain y fenter gyda Phrifysgol Abertawe ac roedd hi wrth ei bodd yn gweld digwyddiad cyntaf y peilot hwn yn dod yn fyw. Meddai: “Yn dilyn ein hymweliad cyntaf gyda myfyrwyr i gyfleuster meddygol a gofal iechyd Prifysgol Abertawe yn Singleton, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddychwelyd i gael gweithdai ymarferol, yn gweithio gyda myfyrwyr a staff y brifysgol. 

“Mae yna gymaint o gyfleoedd gyrfaol ar gael sy’n cefnogi’r sector hwn ond fydd llawer ddim yn ymwybodol ohonynt, felly rydyn ni’n cynnig cyfleoedd unigryw i’n myfyrwyr fydd yn eu helpu i ennill profiad a gwybodaeth ar gyfer gwneud dewisiadau mwy gwybodus ynghylch eu dyfodol.”

Gwnaeth yr ymweliad hefyd gyflwyno ein myfyrwyr i nifer o gyn-fyfyrwyr Safon Uwch Coleg Sir Gâr a oedd yn rhan o grŵp o fyfyrwyr gradd ODP sy’n astudio  yn y brifysgol ar hyn o bryd ac a roddodd gipolwg gwerthfawr i astudio’r math hwn o gwrs gradd.

A man in blue scrubs with a theatre bed behind talking to students
One of the students looking at the theatre medical instruments
The reception area of the university's medical unit
Angharad Mansfield and students in a room with a simulator mannequin sat up in bed
University staff member explaining how the immersive room is used for training. A bus simulator is seen on a digital wall.
Students in the university theatre listening to degree students experiences who are all dressed in blue scrubs
Students in a sitting area of the university's medical facility

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau