Y Fyddin Brydeinig yn ymweld â myfyrwyr gwasanaethau cyhoeddus Coleg Sir Gâr
Yn ddiweddar croesawodd Coleg Sir Gâr dimau Meddygol, Logisteg a Chorfflu’r Dirprwy Gadfridog (AGC) am ddiwrnod cyffrous o weithgareddau’n canolbwyntio ar waith tîm, gwytnwch a mewnwelediadau gyrfaol.
Gwnaeth y profiad hwn gynnig golwg unigryw i fyfyrwyr ar fywyd yn y Fyddin trwy gyfres o heriau rhyngweithiol, pob un yn pwysleisio sgiliau hanfodol fel datrys problemau, cyfathrebu ac adeiladu tîm - y cwbl yn nodweddion pwysig iawn i’r rheiny sy’n dyheu am yrfa yn y Fyddin Brydeinig.
Mae’r Fyddin Brydeinig yn ymweld ag amrywiol ysgolion a cholegau bob tri mis, gan anfon timau ymgysylltu craidd i arwain gweithgareddau corfforol a meddyliol sy’n adlewyrchu’r sgiliau hanfodol a ddatblygir mewn hyfforddiant milwrol.
Arweiniodd tîm meddygol y Fyddin fyfyrwyr drwy weithdy diddorol ar y prosesau gofal yn dilyn colli braich neu goes, gan arddangos y dulliau a’r adnoddau sydd ar gael. Rhoddodd yr ymarferiad hwn gipolwg i’r myfyrwyr ar ochr gofal iechyd gwasanaeth milwrol a’r cyfle i ddysgu am y gefnogaeth feddygol sydd ar gael i filwyr. Roedd myfyrwyr yn gallu cael amcan o’r gwytnwch sydd ei angen mewn senarios byd go iawn.
Mewn sesiwn arall, bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd tebyg i’r rhaglen “Dragon’s Den”. Derbyniodd pob tîm becyn gydag amrywiol eitemau ac fe’u heriwyd i’w hadeiladu i wneud cynnyrch ac i gyflwyno’u syniad i dîm y Fyddin. Roedd arloesi a chyfathrebu yn flaenllaw yn yr ymarferiad hwn gyda’r myfyrwyr yn cydweithio i greu a “gwerthu” eu syniadau, gan adlewyrchu’r dyfeisgarwch a’r meddwl strategol a werthfawrogir yn fawr yn y Fyddin.
Canolbwynt y gweithgaredd terfynol oedd ymddiriedaeth, meddwl yn gyflym a gwaith tîm - nodweddion sy’n annatod ar gyfer cyfathrebu effeithiol yn y lluoedd arfog. Heriodd cwrs rhwystrau dan fwgwd sgiliau gwrando a chyfathrebu’r myfyrwyr. Fe wnaeth un myfyriwr lywio’r cwrs dan fwgwd, gan ddibynnu’n gyfan gwbl ar gyfarwyddiadau a weiddwyd gan ei gyd-aelodau tîm i wneud ei ffordd drwodd yn llwyddiannus.
Rhoddodd yr ymweliad brofiad uniongyrchol i fyfyrwyr o werthoedd hyfforddiant y Fyddin, gan adael argraff barhaol. Gadawodd y myfyrwyr gyda dealltwriaeth yn well o’r rolau sydd ar gael yn y Fyddin. Bydd y gwersi gwerthfawr a enillwyd o’r ymweliad yn fuddiol i’r myfyrwyr, p’un a ydynt yn dilyn gyrfa filwrol neu lwybr arall.