Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd 2024
O’r 4ydd-8fed Tachwedd, 2024, mae’r Academi Sgiliau Gwyrdd yng Ngholeg Sir Gâr yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd, menter a gynlluniwyd i gysylltu myfyrwyr, addysgwyr, rhieni a chyflogwyr lleol â maes eang a chynyddol gyrfaoedd gwyrdd.
Mae’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yn pwysleisio’r rhan hanfodol y bydd cynaladwyedd yn ei chwarae yng ngyrfaoedd y dyfodol. Gyda phob sector - o beirianneg ac adeiladu i gyllid a gofal iechyd - yn ymgorffori arferion cynaliadwy, bydd myfyrwyr heddiw yn chwarae rôl ganolog mewn llunio yfory gwyrddach.
Ailddiffinio Gyrfaoedd Gwyrdd
Yn draddodiadol, ystyriwyd gyrfaoedd gwyrdd fel rhai oedd yn gyfyngedig i gadwraeth amgylcheddol neu rolau ynni adnewyddadwy. Heddiw, fodd bynnag, mae diffiniad gyrfaoedd gwyrdd wedi ehangu i gynnwys unrhyw swydd gyda ffocws ar leihau effaith amgylcheddol. O ddylunio ffasiwn cynaliadwy a rheoli cadwyni cyflenwi eco-ymwybodol i rolau corfforaethol mewn strategaethau cynaliadwy, mae gyrfaoedd gwyrdd bellach yn rhychwantu bron pob diwydiant, gan adlewyrchu integreiddio arferion cynaliadwy yn ddyfnach ar draws yr economi. Y canlyniad? Bydd gan bron bob rôl yn y dyfodol ddimensiwn amgylcheddol, gan wneud sgiliau gwyrdd yn hanfodol ar gyfer pob gyrfa.
Gyrfaoedd Gwyrdd a Chyrchnodau Byd-eang
Mae’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yn alinio’n agos â Chyrchnodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (SDGs), sy’n anelu at greu byd cynaliadwy a theg erbyn 2030. Yn benodol, mae’r wythnos yn cefnogi:
● Cyrchnod 4: Addysg o Ansawdd - Trwy gynnig adnoddau ar yrfaoedd cynaliadwy, mae’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i fyfyrwyr ar gyfer swyddi yn y dyfodol sy’n amddiffyn ein planed.
● Cyrchnod 8: Gwaith Boddhaol a Thwf Economaidd - Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at ddiwydiannau sy’n hyrwyddo cyflogaeth ddiogel, deg a chynaliadwy.
● Cyrchnod 13: Gweithredu ar Hinsawdd - Mae Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yn cefnogi gyrfaoedd sy’n canolbwyntio ar liniaru newid hinsawdd, ynni adnewyddadwy, ac eiriolaeth amgylcheddol.
● Cyrchnod 12: Defnyddio a Chynhyrchu Cyfrifol - Mae’r wythnos hefyd yn annog gyrfaoedd mewn cynhyrchu cynaliadwy a rheoli adnoddau, sy’n allweddol wrth leihau gwastraff a hyrwyddo effeithlonrwydd.
Ymrwymiad Cymru: Cefnogi Pontio Teg
Mae’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd hefyd yn alinio gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r cyrchnod o bontio teg i Sero Net. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y newid i economi carbon isel o fudd pawb gan gynnwys y rheiny o sectorau traddodiadol. Mae saith cyrchnod llesiant y Ddeddf, gan gynnwys Cymru Lewyrchus, Gydnerth a Chyfrifol ar Lefel Byd-eang, yn cael eu hadlewyrchu yn yr Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd gan ei bod yn codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd cynaliadwy sy’n cefnogi pobl, cymunedau, a’r amgylchedd.
Trwy dynnu sylw at y ffordd mae galw am sgiliau gwyrdd ar draws sectorau, mae’r Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yn helpu paratoi dysgwyr ar gyfer pontio teg i Sero Net, gan sicrhau bod cymunedau ar draws Cymru yn gallu addasu i economi cynaliadwy ac elwa oddi wrtho.
Cymerwch ran ac Archwiliwch Fwy
Drwy gydol yr wythnos, bydd Academi Sgiliau Gwyrdd Coleg Sir Gâr yn cefnogi ein meysydd cwricwlwm trwy rannu cwis gyda’n staff a’n myfyrwyr ynghyd â darparu adnoddau i gyflwyno dysgwyr i’r llwybrau niferus mewn gyrfaoedd gwyrdd, gan bwysleisio sut mae pob un o’r rolau hyn yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Academi Sgiliau Gwyrdd, lle bydd hyfforddiant ychwanegol, cyngor gyrfaoedd, a chymorth ar gyfer archwilio’r llwybrau cyffrous hyn ar gael.
Ymunwch â ni wrth i ni gydweithio i lunio dyfodol gwyrddach, tecach a mwy llewyrchus i Gymru a thu hwnt!
Gwrandewch ar y Pod Profi diweddar, lle mae Pennaeth yr Academi Sgiliau Gwyrdd, Jemma Parsons yn siarad am Yrfaoedd Gwyrdd a chewch ddarganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y maent yn ei wneud i gefnogi datblygu gyrfaoedd YMA.
Edrych Ymlaen: Wythnos Hinsawdd Cymru a Sgyrsiau Hinsawdd
Yn dilyn yr Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd, mae’n Wythnos Hinsawdd Cymru, a gynhelir rhwng 11-15 Tachwedd, 2024. Fel rhan o’r digwyddiad hwn, bydd Academi Sgiliau Gwyrdd Coleg Sir Gâr yn cynnal pedair Sgwrs Hinsawdd, cyfres o drafodaethau agored sy’n parhau drwy fis Rhagfyr. Mae’r sesiynau hyn yn cynnig gofod cynhwysol i staff a myfyrwyr rannu meddyliau, pryderon a syniadau ynghylch gwytnwch hinsawdd, effeithiau lleol, a datrysiadau cynaliadwy. Rydym yn edrych ymlaen at glywed barn, pryderon a syniadau ein myfyrwyr am y pwnc hwn sy’n cyfrannu at ddeialog ystyrlon ar ddyfodol hinsawdd Cymru.