Taith Leo i ddarganfod diddordeb brwd ar gyfer therapi harddwch yng Ngholeg Ceredigion
I lawer o fyfyrwyr, gall y daith drwy addysg danio diddordebau annisgwyl. I Leo, myfyriwr diweddar mewn Therapi Harddwch yng Ngholeg Ceredigion, felly oedd hi yn sicr.
Wrth fyfyrio ar ei daith, rhannodd Leo sut y gwnaeth un uned yn arbennig ei ysbrydoli ef a’i yrfa ar gyfer y dyfodol.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddwn i’n hoffi’r unedau tylino cymaint ag y gwnes i, ond cyn gynted ag y gwnaethon ni fwrw iddi, syrthiais i mewn cariad â’r rhythm a gwneud i bobl deimlo’n well,” mae’n cofio. “Roedd fy nhiwtor yn wych hefyd - roedd hi’n anhygoel.”
Mae ei frwdfrydedd ar gyfer harddwch yn mynd y tu hwnt i’r dosbarth, wrth iddo gofio gydag anwyldeb am ei amser yng Ngholeg Ceredigion. “Jest ewch amdani,” mae’n cynghori unrhyw un sy’n ystyried astudio therapi harddwch. Meddai Leo: “Roedd yn amser mwyaf arbennig - cymaint o hwyl, rhannu cymaint o eiliadau gwych. Y teithiau, y profiadau - mae cymaint gennych chi i edrych ymlaen atynt. Roedd yn un o’r pethau gorau rwyf erioed wedi’i wneud.”
Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Leo’n llawn cyffro ynghylch yr hyn sydd i ddod, meddai: “Gobeithio, yn y dyfodol agos, byddaf yn agor f’ystafell harddwch i fy hun lle byddaf yn parhau gyda fy addysg a’m hyfforddiant yma yng Ngholeg Ceredigion. Rwy’n hynod o gyffrous ynghylch y cam nesaf yn fy ngyrfa.”
Mae ei astudiaethau mewn therapi harddwch nid yn unig wedi rhoi’r sgiliau technegol iddo ond maen nhw hefyd wedi ysbrydoli llwybr gyrfaol ni fedr aros i gychwyn arno.