Tair arweinyddes yng Ngholeg Sir Gâr yn ailddiffinio arweinyddiaeth gyda charedigrwydd
Mae tair arweinyddes yng Ngholeg Sir Gâr yn hybu caredigrwydd fel gwerth craidd mewn rheolaeth, gyda’r nod o feithrin amgylchedd campws mwy cynhyrchiol, ymgysylltiol ac arloesol.
Mae’r arweinwyr blaengar hyn - Jamie Hawkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Heidi Rees, Pennaeth y Celfyddydau Creadigol a Choginiol ac Amy Nisbet, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Safon Uwch a Dysgu Gydol Oes - yn profi bod empathi mewn arweinyddiaeth yn ysbrydoli ac yn ysgogi llwyddiant.
Mae Jamie a Heidi wedi derbyn gwobr Cariad y coleg, sy’n cydnabod ac yn llongyfarch y “cariadau” yn ein plith – gan amlygu’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud drwy’r coleg.
Enwebwyd Jamie gan gasgliad o staff am ei hymroddiad rhyfeddol a’r ffordd unigryw y mae’n gofalu am ei thîm. Wrth fyfyrio ar y gydnabyddiaeth hon, mae Jamie’n rhannu: “Mae’n anodd dod o hyd i’r geiriau i egluro beth oedd hyn yn ei olygu i mi, rwy’n meddwl bod y ffaith bod y staff wedi cymryd amser i’m henwebu ac ysgrifennu geiriau mor hyfryd wedi bod yn brofiad mor ddiymhongar hefyd.
“Cefais fy syfrdanu’n llwyr ac rwy’n dal i fynd yn emosiynol wrth feddwl am y geiriau caredig a ysgrifennwyd ganddynt. Yn fy swydd i, nid wyf byth yn gobeithio am na disgwyl canmoliaeth na chwaith i dderbyn gwobrau gan fy mod yn teimlo fy mod ond yn gwneud fy ngwaith, a fy ngwaith i yw canmol a gwobrwyo eraill, sy’n rhywbeth rwyf wrth fy modd yn ei wneud.
”Pan ofynnwyd iddi am bwysigrwydd arwain gyda charedigrwydd, dywedodd Jamie: “Mae arwain gyda charedigrwydd yn bwysig oherwydd ei fod yn adeiladu ymddiriedaeth, yn meithrin cydweithio, ac yn creu amgylchedd cadarnhaol, cynhwysol.
“Mae’n gwella perthnasoedd ac yn helpu arweinwyr i ffurfio cysylltiadau gwirioneddol gyda’u timau. Pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, maent yn fwy tebygol o ymddiried yn eu harweinydd a chydweithio’n effeithiol.
“Mae’n ymwneud â pherthnasoedd dynol hefyd a bod yn fregus, rwyf i bob amser yn fi fy hun a bob amser yn dangos fy mregusrwydd, rwy’n ddynol wedi’r cyfan. Rwy’n gobeithio, trwy ddangos caredigrwydd, fy mod yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth, gan hyrwyddo diwylliant o empathi, gonestrwydd a gwaith tîm.”
Mae Heidi Rees hefyd yn ymgorffori gwerthoedd empathi a pharch yn ei harweinyddiaeth yng Ngholeg Sir Gâr. I Heidi, nid strategaeth yn unig yw arwain gyda charedigrwydd. Mae hi’n pwysleisio bod parch yn rhywbeth y mae pawb yn ei haeddu, beth bynnag fo’u rôl a’i fod yn ganolog i adeiladu tîm cadarnhaol a chefnogol.
“Triniwch eraill fel yr hoffech chi gael eich trin,” eglura, gan gredu pan fydd tîm yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, y gallant weithio’n fwy effeithiol tuag at gyrchnodau cyffredin.
Mae agwedd Heidi at arweinyddiaeth yn canolbwyntio ar hyrwyddo caredigrwydd trwy ei gweithredoedd. Mae hi’n ei gwneud yn bwynt i ddangos parch yn gyson at ei chydweithwyr, gwrando’n astud, a chydweithio i ddod o hyd i atebion y gall pawb eu cefnogi. “Mae cyfathrebu yn hollbwysig, ac mae persbectif pob unigolyn yn bwysig,” meddai, gan bwysleisio pa mor bwysig yw creu amgylchedd lle mae pob llais yn cael ei glywed. Mae hyn yn naturiol yn annog eraill i fabwysiadu’r un gwerthoedd, gan atgyfnerthu ymdeimlad o barch a chymuned o fewn y tîm.
Mae Amy Nisbet hefyd wedi cael ei chydnabod am ei harweinyddiaeth dosturiol, gan ennill gwobr “Arwain gyda Charedigrwydd” yn y gwobrau addysgu a dysgu.” Er mai dim ond ers amser byr y mae hi wedi bod yng Ngholeg Sir Gâr, mae Amy eisoes wedi cael effaith sylweddol drwy annog diwylliant lle mae caredigrwydd wrth galon popeth mae’n ei wneud.
I Amy, mae caredigrwydd mewn arweinyddiaeth yn hanfodol ar gyfer creu gofod cefnogol a chroesawgar lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. “Mae caredigrwydd yn helpu i adeiladu ymddiriedaeth ac yn annog gwaith tîm,” eglura. “Pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u deall, mae’n haws iddynt gysylltu, rhannu’n agored, a theimlo eu bod yn perthyn.”
Mae hi hefyd yn credu nad yw caredigrwydd yn ymwneud â’r hyn sy’n digwydd yn y gweithle yn unig ond hefyd mae’n ymwneud â chydnabod bod gan bawb fywyd y tu allan i’r gwaith a all effeithio ar eu profiadau o ddydd i ddydd: “mae deall yr heriau personol hynny yn rhan o arwain gyda charedigrwydd,” ychwanega.
Roedd derbyn y wobr “Arwain gyda Charedigrwydd” yn foment ystyrlon i Amy, gan ei fod yn dilysu ei hagwedd at arweinyddiaeth. “Mae’n anrhydedd i gael cydnabyddiaeth, yn enwedig mewn cyfnod mor fyr,” meddai.
“Mae’r wobr yn ailgadarnhau fy nghred bod creu amgylchedd gofalgar a chefnogol yn hollbwysig i ddiwylliant Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae’n fy ysbrydoli i barhau i wneud caredigrwydd yn flaenoriaeth ym mhopeth a wnaf.”
Gyda’i gilydd, mae Jamie, Heidi ac Amy yn ail-lunio’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn arweinwyr yng Ngholeg Sir Gâr. Trwy flaenoriaethu caredigrwydd, empathi a pharch maent nid yn unig yn creu man gwaith cefnogol a chynhwysol i staff ond hefyd yn ysbrydoli’r myfyrwyr y maent yn eu harwain. Mae eu harweinyddiaeth yn dangos pan fydd unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, maent yn fwy tebygol o ffynnu, cyfrannu a gwneud eu gorau glas.