Skip page header and navigation

Bu staff addysgu Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cymryd rhan mewn gweithdy diwydiant deuddydd ym Mharc Sŵolegol Wild. Yno cawsant ychydig o fewnwelediad i arferion diweddaraf y diwydiant yn ymwneud â lles anifeiliaid ar amrywiaeth o anifeiliaid sŵolegol yn cynnwys marmosetiaid a lemyriaid. 

Cafodd yr hyfforddiant hwn ei ariannu gan y fenter Cyllid Llwybr Diwydiant (Industry Pathway Funding) sy’n helpu cadw staff mewn cysylltiad â’r arferion diweddaraf o fewn unrhyw ddiwydiant penodol. Er bod y coleg yn lletya rhai anifeiliaid ar y safle, mae angen gofal arbennig ar gasgliadau sŵoleg. 

Parc Sŵolegol Wild ger Dudley oedd y lleoliad ar gyfer yr hyfforddiant a chafodd ei redeg gan yr ymgynghorydd ymddygiad sŵ, Nicky Plaskitt.

Meddai Sara Morris, darlithydd mewn astudiaethau anifeiliaid yng Ngholeg Sir Gâr: “Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau ar ystod o rywogaethau sŵolegol. Cafodd y dulliau eu hatgyfnerthu’n gadarnhaol trwy reoli ymddygiad positif ac roedd yn cynnwys hyfforddi coatïaid mewn cratiau, hyfforddiant lleoli storciaid gwyn, hyfforddiant graddfeydd marmosetiaid a hyfforddiant chwistrellu lemyriaid cynffondorch drwy gyswllt amddiffynnol.

“Gall yr angen am y dulliau hyfforddi ac arferion hyn gael eu hymgorffori i’n rhywogaethau ni ein hunain yn ein casgliadau coleg. Gallwn ni ddefnyddio atgyfnerthu cadarnhaol ar ystod o rywogaethau eraill ac yn ailadrodd yr un dulliau er mwyn osgoi achosi unrhyw niwed neu straen pellach iddynt. Er enghraifft, bydd gwneud hyfforddiant lleoli gyda’n cwningod yn caniatáu i ni ymgymryd â gwiriadau iechyd gweledol mewn ffordd fydd ddim yn peri straen pellach i’r anifeiliaid.”

Mae’r gweithgaredd hwn, a oedd yn agored i sefydliadau eraill, hefyd yn darparu’r cyfle i staff rwydweithio gyda pherchnogion sŵau, arbenigwyr ymddygiadol a chwrdd â staff o lefydd fel Parc Antur a Saffari Blair Drummond yn yr Alban.

Mae’r ddau goleg yn cynnig darpariaeth mewn gofal anifeiliaid, o lefel un i lefel tri cyn-prifysgol, cymhwyster lefel pedwar ar-lein ac yng Ngholeg Sir Gâr, gradd sylfaen mewn gwyddor anifeiliaid a gradd anrhydedd mewn lles ac ymddygiad anifeiliaid.

Mae gan fyfyrwyr ar gyrsiau’n ymwneud ag anifeiliaid yn y ddau goleg fynediad i gasgliadau sŵolegol fel y rhain gyda chysylltiadau diwydiant. 

Mae staff wedi dychwelyd yn frwdfrydig gyda llawer o syniadau newydd am sut i ddatblygu a rhoi’r arferion diwydiant hyn ar waith o fewn ein casgliad ni ein hunain  o anifeiliaid. 

Staff the other side of the cage of two animals
Emma (lecturer) up close to an exotic green and red bird
Feeding an animal

Rhannwch yr eitem newyddion hon