Skip page header and navigation
Finn standing with chefs wearing a competition medal

Mae rysáit risotto myfyriwr coginio proffesiynol yng Ngholeg Ceredigion wedi cael ei chynnwys ar wefan Riso Gallo.

Mae Riso Gallo yn frand a adnabyddir yn fyd-eang, sy’n enwog am ei ymroddiad i gynhyrchu reis o ansawdd uchel. Hefyd am drefnu Cystadleuaeth Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn y DU ac Iwerddon lle mae myfyrwyr Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr yn cymryd rhan.

Mae Finn Langley sy’n 18 oed ac yn dod o Ffwrnes, yn astudio coginio proffesiynol a gwasanaeth ar gampws Aberystwyth Coleg Ceredigion, sy’n gartref i fwyty hyfforddi’r coleg, Aberista. 

Yn wreiddiol cymerodd ran mewn digwyddiad Cystadleuaeth Sgiliau Cymru oedd yn cynnwys ei saig risotto wedi’i gwneud o gennin, cnau Ffrengig a risotto gorgonzola, gydag olew cennin syfi. 

Finn's risotto on a black dish

Yn hwyrach yn y flwyddyn, fe wnaeth Jason Morrison o Riso Gallo ymweld â’r myfyrwyr i roi dosbarth meistr risotto iddynt a mynegodd ddiddordeb mewn cynnwys rysáit Finn ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. 

Gellir dod o hyd i’r rysáit, sy’n gweini dau o bobl, yma

Meddai James Ward, darlithydd mewn coginio proffesiynol yng Ngholeg Ceredigion:  “Mae Finn wedi cynhyrchu saig wych gan ddefnyddio cennin cartref, cynhwysion syml gydag ansawdd a blas cryf, a heb wastraff sy’n bwysig iawn. 

“Dylai risotto da fod yn hufennog ac ychydig yn dyner (al dente) ac yn ddelfrydol gallwch chi ei wneud mewn 18 munud.

“Mae hwn yn gyflawniad ardderchog ac yn hwb i hyder unrhyw fyfyriwr coginio proffesiynol.”

Mae llwyddiant Finn yn dilyn ymlaen o’r llynedd, pan enillodd myfyriwr Coleg Ceredigion Oliver Lacey wobr yr ail orau yng nghystadleuaeth Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn y DU ac Iwerddon a threuliodd dri diwrnod yn coginio gyda’r prif ben-cogydd yn Llysgenhadaeth yr Eidal yn Llundain.

Finn's risotto on a black dish

Rysáit Risotto Cennin a Chastanwydd Finn

Rhannwch yr eitem newyddion hon