Skip page header and navigation

Gwahoddwyd myfyrwyr arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion i arddangos eu sgiliau coginiol proffesiynol yn y Senedd yng Nghaerdydd, mewn digwyddiad gyda’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt (GWCT).

Cafodd Bwyty Maes y Parc, bwyty hyfforddi campws Aberteifi, wahoddiad i baratoi, coginio a gweini croesawiad canapé yn y Senedd ar gyfer 50 o bobl mewn digwyddiad ‘Achub ein Gylfinirod’, lle gofynnwyd iddynt amlygu helwriaeth, cadwraeth a chynhwysion cynaliadwy Cymreig.

Rhoddwyd y dasg goginiol i bum myfyriwr, gan ddefnyddio ceginau’r Senedd a chafodd pump y dasg o ddarparu gwasanaeth blaen y tŷ proffesiynol. 

Roedd canapés yn cynnwys parfait tian afu hwyaden, gyda siytny ffigys a thomato a gleision yr ŷd ar eu pen; tartlenni mêl Cymru a sitrws lemwn, gyda meringue Eidalaidd a chroen leim ar eu pen; cracer dapioca bara lawr gyda chocos Llanusyllt a jam bacwn. Samwn mwg Swansea Fish, Cracer inc môr-lawes gyda Phiwri Afocado; Wyau Samwn; Taramasalata ac olwynion Wasabi Cymru gyda Llysiau Gwyrdd Micro Ifanc ar eu pen. 

Gweinwyd y rhain i aelodau GWCT, gwesteion arbennig ac aelodau’r Senedd. 

Cynhyrchodd y coleg daflen fwydlen a chyflenwyr ar gyfer y digwyddiad yn cynnwys cyflenwyr lleol Caws Teifi, Caws Cenarth, Swansea Fish, Fferm Green Up, Pysgod Bae Ceredigion, Dewi James a’i Gwmni, Cwmni Cloron Cymru, Fferm Castle Hill, Hyphae Shroomery, Mêl Aberporth a fferm wymon Câr y Môr.

Estynnwyd y gwahoddiad i Fwyty Maes y Parc ar ôl i’r coleg gynnal ac arlwyo  digwyddiad codi arian GWTC yn y coleg ynghyd â gwahoddiad pellach i roi dangosiadau gan fyfyrwyr ar stondin GWCT yn y Sioe Frenhinol. 

Meddai Huw Morgan, uwch-ddarlithydd coginio proffesiynol a lletygarwch ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion: “Hoffen ni estyn ein diolch diffuant i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyll Cymru am y cyfle i arlwyo ar gyfer eu digwyddiad Achub y Gylfinir yn y Senedd. 

“Roedd yn brofiad gwirioneddol ryfeddol i’n dysgwyr, yn caniatáu iddynt arddangos eu sgiliau wrth baratoi, coginio, a gweini croesawiad canapé wrth galon Llywodraeth Cymru. 

“Gwnaeth y digwyddiad hwn ddarparu llwyfan amhrisiadwy i hybu cynnyrch Cymreig, gan ddathlu ansawdd ac amrywiaeth neilltuol ein cynhyrchwyr a chyflenwyr lleol o bob cwr o Gymru. Rydyn ni’n anhygoel o falch o’n dysgwyr am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb trwy gydol y digwyddiad hwn, ac anrhydedd yw wedi cael bod yn rhan o’r fath achlysur arwyddocaol.”

Ychwanegodd Sam Everton, darlithydd pen-cogydd arweiniol ym Mwyty Maes y Parc Coleg Ceredigion yn Aberteifi: “Diolch am y cyfle o ofyn i ni ddarparu ein gwasanaethau arlwyo yn y Senedd. 

“Roedd yn anrhydedd wirioneddol i minnau, Huw, a’n myfyrwyr i gymryd rhan yn y fath ddigwyddiad nodedig. Roedd y profiad yn hynod o werthfawr ac yn adlewyrchu ein rôl wrth arlwyo ar gyfer lleoliad mor eiconig.

“Gobeithiwn fod y bwyd a ddarparwyd gennym, wedi cyfleu’n llwyddiannus hanes arferion lleol cynaliadwy sy’n cyd-fynd yn agos â gwerthoedd GWCT a byddem wrth ein bodd yn cydweithio eto.”

Meddai’r cyflenwr cig eidion, Susan Loxdale o Fferm Castle Hill: “Diolch am eich bwyd bendigedig a’ch gwasanaethau gwych, rydych yn ddewin gyda chyfuno blasau ac yn ôl yr hyn a ddywedodd rhai aelodau GWCT, ‘ffrwydrad o flas ar y cnoad cyntaf’. Rydych chi’n creu cymaint o gyfleoedd ehangach ar gyfer ein myfyrwyr ac yn dod â llawer mwy iddynt yn eu haddysg.” 

Ychwanegodd Alaw Ceris, swyddog codi arian ac ymgysylltu ar gyfer GWTC Cymru: “Gwasanaeth proffesiynol heb ei ail gan griw brwdfrydig a chwrtais o fyfyrwyr a staff. Diolch yn fawr am greu bwyd a wnaeth ychwanegu cymaint at ein digwyddiad. Braint oedd gweithio gyda chi unwaith eto.”

Lluniau: https://www.flickr.com/photos/colegsirgar/albums/72177720321233393

A group of students and staff and other representatives
A close up of a plate of canapes with cockle shells
Students working in the Senedd kitchen
Chef/tutor working in the Senedd kitchen
Lecturers (2) seated with the deputy minister
black and white image of hospitality students in uniform holding a plate of canapes

Rhannwch yr eitem newyddion hon