Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr Safon Uwch Coleg Sir Gâr, sy’n ymchwilio i lwybrau dilyniant amgen ar wahân i brifysgol, wedi ymweld â chwmni o’r enw Nexgen Careers yn Barcelona i archwilio cyflogadwyedd a datblygu sgiliau byd-eang.

Ariannwyd y daith gan Taith, sef rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyfnewid rhyngwladol.

Hwylusodd Nexgen Careers weithdai, gyda gogwydd diwylliannol, a oedd yn archwilio cyflogaeth, paratoi i fod yn rhan o weithlu’r genhedlaeth hon, gan edrych ar sut olwg sydd ar y gweithlu nawr, a sut i’w lywio.

Mae cynnwys y daith hefyd yn ymwneud â’u hastudiaethau Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru newydd sydd bellach yn disodli’r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch.  O ganlyniad, bydd Sophie Williams, darlithydd Safon Uwch Coleg Sir Gâr, a aeth gyda myfyrwyr ar y daith ynghyd â staff eraill, yn cyhoeddi erthygl ar y daith ar wefan Bagloriaeth Uwch CBAC ac mae’r daith hefyd wedi’i chydnabod yn nigwyddiad dathlu’r cymhwyster newydd. 

Bu myfyrwyr hefyd yn archwilio profiad gwaith a rhoddwyd briffiau cwmni go iawn iddynt a gafwyd gan Nexgen gan amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau. 

Nod Nexgen Careers yw helpu sefydliadau academaidd i greu profiadau proffesiynol, dylanwadol i gefnogi myfyrwyr i ganfod eu llwyddiant gyrfa yn y dyfodol.  Maen nhw’n cefnogi gweithlu byd-eang i adeiladu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu

Y flwyddyn academaidd hon, mae tîm Safon Uwch Coleg Sir Gâr wedi creu grŵp tiwtorial yn benodol ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch sy’n edrych ar lwybrau amgen yn lle mynd i’r brifysgol. 

Gall y rhain fod yn brentisiaethau neu interniaethau proffesiynol a lefel uwch i gael profiad gwaith a chyfle ar gyfer cyflogaeth. 

Dywedodd Ffion Kennett, hyfforddwr cyflogadwyedd ym mhrosiect Byddwch yn Uchelgeisiol y coleg:  “Roedd y daith i Barcelona gyda Nexgen yn brofiad trawsnewidiol, gan roi hwb i hyder a sgiliau rhwydweithio dysgwyr tra’n eu hysbrydoli i feddwl am eu dyfodol.

“Roedd ymweld â’r gofod cydweithio arloesol Beta Haus, sy’n ganolbwynt gwirioneddol ar gyfer dyfodol gwaith, yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr ac ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr.  Roedd yn brofiad bythgofiadwy a oedd yn annog twf gyrfa a meddwl am y dyfodol.”

Ychwanegodd Sophie Williams, Darlithydd Safon Uwch, Coleg Sir Gâr: “Bu’r profiad a roddodd y daith hon i’n myfyrwyr yn aruthrol. Roedd gweithio ar y cyd â myfyrwyr eraill, y cyfle diwylliannol a’r gwaith a gyflawnwyd ganddynt wir wedi gwneud iddynt dyfu mewn hyder a gwneud defnydd da o’r hyn a ddysgwyd ganddynt o ran eu hopsiynau yn y dyfodol.

“Mae dau fyfyriwr a aeth, yn astudio Sbaeneg Safon Uwch, felly roedd hefyd yn wych eu gweld yn defnyddio eu sgiliau siarad Sbaeneg trwy gydol yr wythnos.” 

 Y grŵp yn y llun mewn harbwr golygfaol
 Myfyrwyr mewn grŵp, yn eistedd mewn cylch gyda hwylusydd
 Myfyrwyr yn rhoi cyflwyniad gan ddefnyddio sgrin
Lecturers Carly and Sophie who went on the trip. Head shot of two people.

Rhannwch yr eitem newyddion hon