Skip page header and navigation

Mae’r gystadleuaeth tridiau, sy’n cael ei chynnal yn Stadiwm Arena Milton Keynes, yn ffurfio rhan o ddigwyddiad ledled y DU.

Mae cystadleuwyr yn y rowndiau terfynol cenedlaethol wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau rhanbarthol i sicrhau eu lle. 

Bydd Ifan a Daniel yn cael y dasg o adeiladu eitemau o luniadau technegol a fydd yn cael eu beirniadu’n graff gan banel o arbenigwyr yn y diwydiant.

Bydd y diwrnod cyntaf yn cynnwys marcio allan strwythur i osod sylfaen eu prosiect, a thasg yr ail ddiwrnod yw profi eu sgiliau wrth iddynt wneud toriadau to cymhleth sy’n gofyn am fanwl gywirdeb ac arbenigedd. 

Ar y diwrnod olaf, byddant yn arddangos eu sgiliau gorffennu trwy hongian drws, gosod sgertin ac architrafau, gan gyflwyno eu prosiect i gystadleuaeth o safon.

Cynigir cefnogaeth hefyd gan gyflogwyr y prentisiaid, sef Williams & Thomas Ltd i Daniel Morgan ac AG Carpentry i Ifan Thomas.

Mae Rhodri Morris, darlithydd gwaith saer yng Ngholeg Ceredigion, yn rhan o dîm sy’n mentora’r ddau fyfyriwr ar gyfer y gystadleuaeth sydd i ddod.  Dywedodd: “Bydd yn gyfle gwych i Daniel ac Ifan brofi cystadlu ar lefel genedlaethol yn erbyn myfyrwyr a phrentisiaid eraill o bob rhan o’r DU a dymunwn yn dda i’r ddau ohonynt.”

Mae Daniel ac Ifan yn ddau o 13 o fyfyrwyr o Goleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr sy’n cymryd rhan yn rowndiau terfynol y DU mewn nifer o gategorïau pwnc.

Bydd Benjamin Jenkins o Goleg Sir Gâr hefyd yn cystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild, a gynhelir rhwng 10 a 21 Tachwedd.

One of the competitors working with wood and tools
One of the competitors using a saw working on a workbench

Rhannwch yr eitem newyddion hon