Skip page header and navigation
A student holding an extended mic
A student holding an extended mic

Yn ddiweddar gwnaeth myfyrwyr cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion sydd ar raglen lefel tri gymryd rhan mewn gweithdy Academi Ffilm y BFI a oedd yn fenter ar y cyd â Ffilmiau Bulldozer. 

Fe wnaeth y profiad ymarferol hwn, a hwyluswyd ar y campws gan ddefnyddio cyfarpar y coleg ei hun, arddangos y cyfleoedd byd go iawn sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau diploma a diploma estynedig mewn cynhyrchu a thechnoleg yn y cyfryngau creadigol.

Roedd amserlen y gweithdy’n orlawn o sesiynau gwerth chweil wedi’u harwain gan weithwyr proffesiynol y diwydiant. 

Dechreuodd gydag adolygiad ffilm byr a dosbarth meistr mewn sgriptio gyda Thomas Rees, gan roi mewnwelediadau sylfaenol i fyfyrwyr i ddatblygu naratif. 

Yn y prynhawn, arweiniodd Tom Gripper sesiwn ar baratoi ar gyfer sesiwn saethu ffilm, gan gwmpasu popeth o gynllunio i asesu risg, creu bwrdd stori a blocio. Ar ddydd Mawrth cafwyd trafodaethau ar rolau ffilm, arferion cynhyrchu cynaliadwy, a hawlfraint gan ddiweddu mewn sgwrs werth chweil am y diwydiant i ddwysáu dealltwriaeth y myfyrwyr ynghylch y dirwedd ffilm ehangach.

Dynodwyd y diwrnod canlynol fel y “diwrnod saethu ffilm” gan ganiatáu i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau, a’r “diwrnod golygu” yn dilyn y diwrnod wedyn. 

Wrth ddiweddu gyda dosbarth meistr gan Tom Betts ar dechnegau sgrinio a sesiynau adborth, cafodd y myfyrwyr y cyfle i adfyfyrio ar eu gwaith. 

Ar y diwrnod olaf, daeth y gweithdy i ben gydag adolygiadau portffolio a sesiwn ar gyfleoedd o fewn Academi Ffilm y BFI yn y dyfodol, gan sicrhau bod y myfyrwyr yn gadael wedi’u hysbrydoli ac wedi’u paratoi ar gyfer eu camau nesaf yn y diwydiant.

Fe wnaeth Laurence Hall o Ffilmiau Bulldozer ganmol y bartneriaeth ac meddai: “Mae rhedeg Academi Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) gyda Choleg Ceredigion wedi bod yn brofiad hynod o werth chweil. 

“Roedd gweld cyfranogwyr yn tyfu’n greadigol ac yn ennill hyder yn eu galluoedd gwneud ffilm yn wirioneddol ysbrydoledig.”

Myfyriodd Sophia Bechraki, tiwtor y cwrs cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion, ar effaith y gweithdy, ac meddai:  “Mae darparu’r math hwn o brofiad byd go iawn, safon y diwydiant i’n myfyrwyr wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud. 

“Gwnaeth y gweithdy BFI nid yn unig wella eu sgiliau technegol ond hefyd rhoddodd gipolwg gwerthfawr iddynt i natur gydweithredol gwneud ffilm. Rydyn ni’n hynod o falch o’r modd y gwnaeth ein myfyrwyr fynd i’r afael â’r her a sut y gwnaethon nhw ddatblygu fel gwneuthurwyr ffilm dros gyfnod yr wythnos.”

Mae Academi Ffilm y BFI yn darparu ardystiad ffurfiol i fyfyrwyr, gan wella eu cymwysterau a’u gwneud yn barod ar gyfer y diwydiant creadigol. 

Mae’r cydweithio hwn yn enghraifft o’r profiadau dysgu ymarferol, cysylltiedig â’r diwydiant sydd ar gael yng Ngholeg Ceredigion, sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y cyfryngau a thu hwnt.

 

Rhannwch yr eitem newyddion hon