Myfyrwyr Coleg Ceredigion ymhlith y tri thîm gorau yn Game Jam y DU
Mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi’u henwi fel un o’r tri thîm gorau o enillwyr mewn cystadleuaeth o’r enw Game Jam, a drefnwyd gan WorldSkills UK.
Daeth Game Jam â myfyrwyr o bob rhan o’r DU ynghyd i gystadlu ac arddangos eu sgiliau mewn dylunio gemau.
Roedd yr holl fyfyrwyr sy’n astudio diploma estynedig technegol Caergrawnt OCR lefel tri mewn TG yng Ngholeg Ceredigion yn cymryd rhan.
Roedd y digwyddiad diwrnod o hyd yn herio cyfranogwyr i greu a llunio eu cwrs rhwystrau eu hunain yn seiliedig ar gêm o’r enw Momentum.
Dywedodd Aled Richards, darlithydd TG Coleg Ceredigion: “Dangosodd y myfyrwyr sgiliau cyfathrebu a sgiliau gweithio mewn tîm ardderchog wrth greu eu gemau. Roedd yn wych eu gweld yn cymryd rhan lawn yn y gystadleuaeth ac yn mynegi eu hunain wrth lunio gemau hwyliog a heriol.
“Dywedodd y myfyrwyr eu bod yn gweld ei fod yn gyfle gwych i ddysgu hanfodion defnyddio Unreal Engine 5, sef llwyfan datblygu gemau proffesiynol. Roedd yn brofiad pleserus iawn gweithio gyda myfyrwyr eraill a chael rhywbeth ar ddiwedd y dydd yr oeddent yn falch ohono ac y gallent ei lawrlwytho a’i chwarae.
”Fel rhan o’r cwrs, mae myfyrwyr yn dylunio a gwneud gêm ac mae Game Jam wedi caniatáu iddynt gyflawni hyn wrth ddysgu defnyddio meddalwedd newydd, datblygu sgiliau datblygu gemau newydd ac mae hefyd wedi dod â synnwyr o gyfeillgarwch i’r ystafell ddosbarth.
Daeth Game Jam, a drefnwyd gan WorldSkills UK, â 27 o dimau ynghyd mewn profiad ymdrochol, yn dilyn briff penodol i ddylunio a datblygu gêm o ansawdd uchel, gan ddefnyddio sgiliau dylunio sylfaenol a rhoi nodweddion allweddol megis symudiad a chyflymder ar waith mewn modd creadigol.
Dau bwynt yn unig oedd rhwng Coleg Ceredigion a’r safle cyntaf ac roeddent un pwynt o’r ail safle, gyda Choleg Barnsley yn fuddugol a Choleg Dinas Lerpwl yn cipio’r ail safle.