Myfyrwyr amaethyddol yn dadorchuddio cit rygbi newydd gyda chefnogaeth gan elusennau iechyd meddwl a chyllid Undeb y Myfyrwyr
Mae myfyrwyr ar gampws amaethyddol y Gelli Aur Coleg Sir Gâr yn falch iawn i arddangos cit rygbi newydd sbon a ariannwyd gan Gyllideb Gyfranogol Undeb Myfyrwyr y coleg ac a gefnogwyd gan dair elusen iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar faes amaethyddiaeth.
Mae’r gyllideb gyfranogol yn broses ffurfiol, flynyddol lle bydd myfyrwyr yn cyflwyno cynnig i’w ystyried, ac os yw’n llwyddiannus, caiff ei gyflwyno i gynrychiolwyr dysgwyr yn ystod Cynhadledd Llais y Dysgwr eu campws, lle bydd llwyddiant y cynnig yn dibynnu ar bleidleisiau myfyrwyr.
Dyma’r tro cyntaf y mae myfyrwyr yn y Gelli Aur wedi cael eu cit proffesiynol eu hunain i gefnogi eu gweithgareddau chwaraeon allgyrsiol.
Roedd tri chynrychiolydd elusennau iechyd meddwl yn bresennol yn lansiad anffurfiol y cit lle gwelsant eu logos yn cael eu harddangos ar y crys.
Gofynnodd y coleg i Rwydwaith y Gymuned Ffermio (FCN), Tir Dewi a Chronfa Daniel Picton-Jones (DPJ) os gallai’r coleg ledaenu’r gair am iechyd meddwl ym maes amaethyddiaeth trwy arddangos eu logos.
Trwy fenter Llais y Dysgwr y coleg, nodwyd yr angen am y cit gan fyfyrwyr yn y Gelli Aur, a oedd yn dweud eu bod am hyrwyddo eu hunaniaeth amaethyddol tra’n chwarae rygbi.
Mae cyllideb gyfranogol Undeb Myfyrwyr y coleg yn caniatáu dyrannu arian i bob un o’i saith o gampysau bob blwyddyn ac anogir myfyrwyr i archwilio’r hyn fyddai’n gwella eu lles ar y campws.
Mae tîm rygbi’r Gelli Aur yn annibynnol ar academi rygbi hirsefydlog y coleg, sydd wedi’i lleoli yn Llanelli, ond mae rhai o’r chwaraewyr yn mynychu sesiynau hyfforddi neu gemau pan fedran nhw.
Caiff y tîm amaethyddol ei hyfforddi gan Philip Thomas o Dîm Lles y coleg gyda Kayleigh Brading, cydlynydd lles Actif yn trefnu gemau cyfeillgar yn erbyn campysau eraill Coleg Sir Gâr, neu ysgolion lleol.
Meddai Harri Brown, myfyriwr amaethyddol ac aelod o’r tîm rygbi ar gampws y Gelli Aur: “Mae’n berffaith, allai ddim bod yn well.
“Mae’n cynrychioli pwy ydyn ni ac mae’n rhoi y Gelli Aur ar y map.”
Dyluniwyd y cit gan y fyfyrwraig amaethyddol Mila Summers ac mae’n cynnwys patrwm buwch ar y llewys a’r siorts gyda sannau du a gwyn yn cynrychioli buches laeth y campws.
Meddai Jamie Davies, rheolwr lles yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Mae Digwyddiad Cyfranogol y coleg bellach yn ei drydedd flwyddyn, gydag iechyd meddwl a lles pob un o saith o gampysau’r coleg yn elwa’n fawr drwy’r broses hon, a ariennir gan ein Hundeb Myfyrwyr.
“O’r blaen mae wedi darparu cit pêl-droed i gampws arall, wedi cyflenwi campfeydd y coleg â chyfarpar newydd, gwella gerddi lles, cyfarpar sinema awyr agored a llawer mwy.
“Y cysylltiad gyda’r tair elusen yw’r peth sy’n gwneud yr un yma’n fwy arbennig gan eu bod yn rhoi cymaint i’n dysgwyr yn y cymunedau amaethyddol a hoffwn roi diolch iddynt am adael i ni ddefnyddio eu logos ar y crysau. Rwy’n gobeithio bod y weithred fach hon a chydnabyddiaeth yn rhoi rhywbeth yn ôl.
“Hefyd hoffwn i roi diolch i Conquer Sportswear am weithio ar ddyluniad cychwynnol Mila a chreu’r cit anhygoel hwn. Rwy’n edrych ymlaen at weld y tîm yn chwarae ynddo.