Skip page header and navigation

Mae myfyriwr cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr wedi llwyddo i gael lle yn Academi Hiroshima-ICAN ar Arfau Niwclear a Diogelwch Byd-eang 2024.

Joseph Owen, sy’n 18 oed, yw’r unig Gymro sy’n cymryd rhan a ddewiswyd o blith 32 o bobl ledled y byd.

Mae ei dad-cu wedi bod yn ddylanwad ym mywyd Joseph oherwydd roedd yn gyn-filwr o Brydain a gymerodd ran ym mhrofion niwclear Operation Dominic yn 1962. 

Yn anffodus, ni chyfarfu Joseph â’i dad-cu erioed ond mae wedi bod yn gweithio gyda chyn-filwyr profion niwclear yn eu cymunedau, gan gyfweld â chyn-filwyr o America a Phrydain.  “Mae gwrando ar y cyn-filwyr a’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn daith anhygoel i mi fy hun,” meddai Joseph. “Mae meddwl am yr hyn aeth fy nhad-cu drwyddo a’r ffaith ei fod wedi gweld 24 o brofion niwclear mewn 78 o ddiwrnodau yn anghredadwy.”

Ar hyn o bryd mae Joseph yn Japan, yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r academi lle bydd cyfranogwyr yn canolbwyntio ar ganlyniadau dyngarol arfau niwclear, risgiau niwclear presennol ac yn y dyfodol, effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol arfau niwclear a rolau’r Cenhedloedd Unedig a chymdeithas sifil.

Creda fod y Cenhedloedd Unedig wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth sefydlu cyfreithiau rhyngwladol, ond mae o’r farn bod llawer o’r rhain wedi’u torri, gan danseilio ei siarter. 

Meddai Joseph Owen: “Rwyf wedi cyfweld Aelodau Seneddol a chyn-filwyr, y mae llawer ohonynt am weld arfau niwclear yn cael eu diddymu a’r neges sylfaenol gan gyn-filwyr ar draws y byd yw nad ydynt am i neb weld yr hyn y maen nhw wedi’i weld.

“Er nad yw diogelwch cynaladwyedd yn dasg hawdd i’w chyflawni, ni ddylem byth anghofio’r dinistr yn Hiroshima a Nagasaki; rhaid i’r byd gofio’r lleisiau y mae’r arfau hyn wedi effeithio arnynt. Er eu bod yn drawiadol o ran eu pŵer, mae’r grymoedd a ryddheir yn farwol ac nid ar unwaith yn unig, ond am genedlaethau i ddod.”

Fel myfyriwr cyfryngau creadigol, bydd Joseph yn defnyddio ei sgiliau dogfennu, cynhyrchu a ffilmio fel rhan o’i waith cwrs yn yr hyn sy’n argoeli, fel gwyliwr, i fod yn daith emosiynol, esthetig a myfyriol. 

Ychwanegodd Joseph Owen: “Mae’r gwariant ar arfau niwclear yn aruthrol ac mae biliynau o ddoleri ar draws y byd wedi ac yn cael eu gwario, arian y gellid ei ddefnyddio i hybu heddwch, diogelwch ac i sicrhau ein bod yn trin y blaned fel y dylem.  Mae ar gyfer ein planed, nid yn unig ar fy nghyfer i fel person 18 oed, ond ar gyfer fy mhlant a’m hwyrion. 

Yn ogystal, sicrhaodd Joseph ysgoloriaeth gan Lywodraeth Lywyddiaethol Hiroshima a wahoddodd bedwar cyfranogwr hefyd o blith aelod-wledydd y G7 i gymryd rhan yn yr academi eleni.

Meddai Rhydian Bowen, darlithydd mewn cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr: “Rwyf wrth fy modd yn llongyfarch Joseph ar gael ei dderbyn i Academi fawreddog Hiroshima-ICAN 2024 ar Arfau Niwclear a Diogelwch Byd-eang. 

“Mae’r cyfle anhygoel hwn nid yn unig yn cydnabod ei ddoniau ym maes y cyfryngau creadigol ond hefyd yn addo gwella ei ddealltwriaeth o faterion byd-eang hollbwysig; mewnwelediadau a fydd, heb os, yn cyfoethogi ei brosiect terfynol sydd ar ddod ar ein cwrs cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol. 

“Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r profiadau hyn yn llywio ei waith yn y dyfodol.”

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau