Llwyddiant Jiwdo myfyrwraig Coleg Sir Gâr
Yn 2016, fe wnaeth Chloe James, myfyrwraig Safon Uwch, gychwyn ar daith jiwdo fyddai’n datblygu o fod yn hobi i fod yn rhan ganolog o’i bywyd. A hithau wedi dechrau jiwdo er mwyn hwyl a hunanamddiffyniad, mae Chloe bellach yn cystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol ac mae’n gweithio tuag at gyrraedd y lefel uchaf yn y gamp.
Mae Chloe yn ymarfer yng nghlwb Sanshirokwai Dojo, ac mae wedi gosod ei bryd ar gael llwyddiant yn y dyfodol. Ei cham arwyddocaol cyntaf mewn jiwdo oedd cymryd rhan mewn cystadlaethau lleol, gyda’i chystadleuaeth gyntaf ym Mhontarddulais yn 2018 lle enillodd hi dlws arian fel gwregys coch.
Gwnaeth y profiad cynnar hwn osod y sylfaen ar gyfer ei gyrfa gystadleuol. Ers hynny mae Chloe wedi cymryd rhan mewn amrywiol ddigwyddiadau, gan godi’n raddol drwy’r rhengoedd. Cyflawniad mwyaf diweddar Chloe oedd cael arian yng Nghystadleuaeth Gaeedig Genedlaethol Cymru yn 2023, gan ennill lle iddi yng ngharfan Cymru.
Mae cystadlu mewn jiwdo yn dilyn proses strwythuredig, dan arweiniad Cymdeithas Jiwdo Cymru. I gymryd rhan mewn cystadlaethau, mae athletwyr yn llanw’r ffurflenni angenrheidiol ac yn paratoi ar gyfer bowtiau a feirniadir gan banel o dri, gyda dyfarnwr yn goruchwylio’r gornestau.
Cynhelir y gystadleuaeth ar fat mawr sgwâr, a’r prif nod yw taflu’r gwrthwynebydd ar ei gefn. Mae tafliad llwyddiannus yn ennill pwynt llawn, tra bod ei lanio ar ei ochr yn sgorio hanner pwynt. Bydd cystadleuwyr yn ymladd am hyd at dri munud, neu’n fwy os nad oes pwyntiau wedi’u sgorio, gan fynd i mewn i amser ychwanegol.
Dros y blynyddoedd, mae Chloe wedi cystadlu mewn pum twrnamaint, gan ennill profiad gwerthfawr a hyder. Mae ei chyflawniadau’n cynnwys gorffen yn y tri safle uchaf nifer lluosog o weithiau ar draws gwahanol wregysau a digwyddiadau. Yn 2023, cyflawnodd Chloe arian yng nghystadleuaeth clwb EGH fel gwregys oren ac enillodd hi fedal efydd ym Mhencampwriaeth Kata Cymru eleni, yn cystadlu ochr yn ochr â’i brawd.
A hithau’n wregys gwyrdd ar hyn o bryd (5ed radd/3ydd kyu), mae Chloe yn ymroddedig ac yn canolbwyntio ar gyrraedd uchelfannau newydd yn y gamp. Gyda dyheadau i ddod yn athletwraig broffesiynol, mae hi’n gobeithio denu nawdd i helpu datblygu ei gyrfa.
Wrth edrych i’r dyfodol, mae brwdfrydedd Chloe am Jiwdo a’i hysfa i gyflawni’r safon uchaf bosibl yn tanio ei huchelgais i barhau i ragori yn y gamp mae hi bellach yn galw “hobi ei bywyd.”