Skip page header and navigation

Roedd cyffro gwirioneddol yn ffreutur campws Rhydaman Coleg Sir Gâr yr wythnos hon pan ddaeth myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol â’r lle’n fyw gyda’u digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi arbennig.

Cafodd y digwyddiad ei greu mewn partneriaeth â Chartwells, cwmni sy’n darparu cyfleusterau arlwyo ar gampysau Coleg Sir Gâr, yn dilyn llwyddiant pwysig lleoliadau myfyrwyr yn ei gaffis yn Rhydaman a’r Graig.

Gwnaeth y cwmni ddarparu arbenigedd coginiol ar ffurf pen-cogydd a staff i weithio gyda myfyrwyr i baratoi a gweini rysait cawl traddodiadol ynghyd â phice ar y maen a seigiau ategol eraill.

Datblygwyd y syniad yn dilyn llwyddiant lleoliadau gwaith myfyrwyr gyda Chartwells a’r perthnasoedd wnaeth dyfu o’r profiad cadarnhaol hwn.

Mae cyrsiau llwybr yn helpu myfyrwyr a all fod ag anghenion ychwanegol neu gymhleth i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer byw’n annibynnol a chyflogadwyedd.

Meddai Anisha Jones, myfyrwraig Llwybr 3: “Roeddwn i wrth fy modd yn gweld pawb arall yn mwynhau ac roeddwn i’n hoffi gweld holl fyfyrwyr y llwybrau gwahanol yn rhyngweithio a gweithio gyda’i gilydd. Gwnes i wir fwynhau’r digwyddiad llwyddiannus hwn.”

Ychwanegodd Katy Williams, sydd hefyd ar Lwybr 3: “Roedd hi’n brysur iawn ond roedd hi’n dda i weld myfyrwyr eraill yn mwynhau  beth wnaethon nhw.”

I’r myfyriwr Matty Stolarczky, dyma’r tro cyntaf erioed iddo flasu cawl. “Roeddwn i’n dwlu gweini ar bobl a chael eu dewisiadau yn gywir,” meddai “Roedd hi’n braf i weld pa mor garedig a chwrtais oedd pobl a dysgais sgiliau mewn cyfathrebu a gwrando.”

Dywedodd XJames Muldoon, o gwmni Chartwells: “Mae ennill profiad yn y diwydiant lletygarwch nid yn unig yn rhoi sgil byw hollbwysig i fyfyrwyr, ond mae hefyd yn ymgorffori sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn helpu cyflymu eu mynediad i ddiwydiant ehangach, neu sectorau eraill.

“Rydyn ni’n ymrwymedig i rannu’r arbenigedd sydd gan ein timau coginiol i ymgysylltu â chenedlaethau’r dyfodol ynghylch coginio prydau maethlon, awchus o ansawdd. Roedd yn syfrdanol i ganolbwyntio ymdrechion y cwrs hwn o gwmpas seigiau Cymreig traddodiadol, ac fe gawsant eu derbyn yn dda gan y myfyrwyr.”

Meddai Helen Edwards, pennaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS), Dechrau Newydd a Sylfaen: “Trwy gydol y digwyddiad hwn, yn nhermau datblygiad personol, rydyn i wedi gweld y fath dwf yn ein myfyrwyr.

“Pan ddechreuon nhw gyda ni ym mis Medi, roedd rhai yn gwrthod siarad,  rhai yn ofni amgylcheddau prysur felly roedd eu gweld yn coginio, gweini a rhyngweithio mor dda gyda gwesteion yn hollol anhygoel i ni.

“Mae staff Grŵp Chartwells yn y coleg wedi bod yn annatod o ran llwyddiant y digwyddiad hwn ac wrth gefnogi ein myfyrwyr yn eu lleoliadau gwaith ar gampysau Rhydaman a’r Graig.

“Mae’r sgiliau cyflogadwyedd maen nhw’n eu dysgu gyda’r staff yn amhrisiadwy i’r myfyrwyr ac rydym wedi gweld ochr fwy cadarnhaol a hyderus ohonynt ers iddynt fod yn y lleoliadau hyn – mae wedi newid rhai ohonynt yn sylweddol.

“Hoffwn ddiolch i Gina Ciano, tiwtor wnaeth drefnu’r digwyddiad gyda Chartwells, sydd wedi bod yn datblygu hyder a sgiliau arlwyo myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn academaidd.

“Hefyd, Menna Jones, a wnaeth gefnogi gwobr thema Gymreig ar gyfer y bwrdd thema Gymreig addurnedig gorau a enillwyd gan ein dysgwyr Llwybr 1.

“Roedd yr awyrgylch a’r ymdeimlad o gymuned yn rhywbeth a gaiff ei gofio o fewn yr adran ILS.”

Ychwanegodd Kath Hopkins, sy’n gynorthwy-ydd cymorth addysgol: “Mae gan lawer o’n myfyrwyr ar lwybr 1 anghenion cymhleth ac ar brydiau dydyn nhw ddim yn hoffi gadael eu hystafell ddosbarth. Felly roedd eu gweld nhw’n mwynhau’r digwyddiad hwn yn anhygoel i ni fel tîm.

“Gwnaeth y pen-cogydd a’r staff arlwyo wneud sylwadau ynghylch pa mor galed gweithiodd y myfyrwyr, o baratoi’r bwyd i glirio lan wedyn– gwnaethon nhw’r cwbl gyda brwdfrydedd ac ysbryd tîm.”

Myfyriwr yn edrych ar y camera o ford bwyd
Bowliau o cawl (dau)
Myfyrwyr yn sefyll y tu ôl i gownter gwasanaethu
Y staff arlwyo

Rhannwch yr eitem newyddion hon