Skip page header and navigation

“Roedden ni am ddileu elfen ddetholedig a hierarchaeth ‘ymchwil’ a’i hagor i fyny i bawb. I ni, roedd parch, cydraddoldeb a chynwysoldeb cyffelyb yn hollbwysig, fel bod staff o bob cwr o’r sefydliad cyfan yn gwybod bod eu llais a’u barn o bwys boed ganddynt bum gradd neu ddim un, mae lle gennych ar ein rhaglen os ydych yn chwilfrydig.” Bryony Evett-Hackfort

Mae gwaith y tîm addysgu a dysgu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi cael ei gydnabod yng nghyhoeddiad Routledge o’r enw Exploring Practitioner Research in Further Education: Sharing Good Practice.

Mae pennod gyfan wedi cael ei chynnwys mewn adran o’r enw ‘Models for Practitioner Research in FE’ sy’n ymuno â phenodau unigol eraill gan y rheiny sy’n ymwneud ag ymchwil weithredu o fewn addysg bellach.

Teitl y bennod hon yw ‘Coleg Sir Gâr and Coleg Ceredigion: The evolution of our Culture of Curiosity,’ ac mae’n archwilio esblygiad ymchwil weithredu o Lwybrau Rhagoriaeth y coleg ac yn rhoi mewnwelediad yn benodol i waith staff addysgu Cath Roberts, Allan Laskey, Alex Huggett a Karl Sedgwick.

Wedi’i hysgrifennu gan Bryony Evett Hackfort, sef cyfarwyddwr addysgu, dysgu ac addysg y coleg, mae’r bennod yn esbonio sut oedd y tîm am sefydlu diwylliant ymchwil weithredu dilys, a arweinir gan athrawon yn y coleg, gan yrru chwilfrydedd i anelu am ddealltwriaeth ddwysach o faterion addysgu a dysgu.

Daeth gweithgareddau ymchwil weithredu a gyflawnwyd gan y staff i’w hadnabod fel Diwylliant o Chwilfrydedd, lle cefnogwyd staff i ymchwilio i faes o’u diddordeb o fewn addysgu a dysgu ac archwilio atebion a sut i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Dechreuodd y fenter hon bum mlynedd yn ôl ac mae’n datblygu’n barhaus, gan nad yw addysg bellach yn sefyll yn llonydd a chaiff ei herio gan ddylanwadau allanol fel materion cymdeithasol yn cynnwys effaith tlodi bwyd ar ymgysylltiad dysgwyr - pwnc a archwiliwyd gan ddarlithydd Coleg Sir Gâr Allan Laskey, sy’n cael ei gynnwys yn y llyfr. 

Meddai Bryony Evett Hackfort, cyfarwyddwr Dysgu, Addysgu a Thechnoleg: “Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i ymroi i hyrwyddo’r ymchwil weithredu a geir mewn addysg bellach ac rydyn ni wrth ein bodd yn cael ein cynnwys ynddo. 

“Roedd yn glir yn gyflym o’r cychwyn bod maint ein prosiect Diwylliant o Chwilfrydedd yn sylweddol ac roedd sicrhau nad oeddem yn rhuthro’r broses hon yn allweddol. 

“Mae addysg yn symud yn gyflym, mae’r llwyth gwaith yn enfawr, mae amser yn gyfyng a chyllid yn brin.

“Fe wnaeth clywed Sam Jones yn siarad roi’r hyder i ni herio’r tybiaethau hirsefydlog sydd gennym ‘ni,’ ynghylch ymchwil, sef pwy sy’n gallu ei gwneud, pwy ddylai ei gwneud, sut mae’n edrych, pwy ddylai ddysgu ohoni a sut ddylid ei chyflwyno?

“Roedden ni am ddileu elfen ddetholedig a hierarchaeth ‘ymchwil’ a’i hagor i fyny i bawb. I ni, roedd parch, cydraddoldeb a chynwysoldeb cyffelyb yn hollbwysig, fel bod staff o bob cwr o’r sefydliad cyfan yn gwybod bod eu llais a’u barn o bwys boed ganddynt bum gradd neu ddim un, mae lle gennych ar ein rhaglen os ydych yn chwilfrydig.”

Mae enghraifft o’r ymchwil weithredu sydd wedi digwydd yn y coleg ac sydd wedi’i chynnwys yn y llyfr, yn cynnwys ymchwil y darlithydd gwella sgiliau, Allan Laskey, a fu’n archwilio effaith tlodi bwyd ar ymgysylltiad dysgwyr. 

Gan ddadansoddi data cenedlaethol, creu grwpiau ffocws ac ymweld â cholegau eraill, cyflwynodd ei ganfyddiadau i uwch arweinyddiaeth. Mae e bellach yn rhedeg clwb coginio coleg sy’n darparu cynhwysion i ddysgwyr yn rhad ac am ddim ynghyd â chardiau ryseitiau cyflym a hawdd.   “Nid yw’n ymwneud â bwyd rhad yn unig,” meddai Alan,”mae’n ymwneud â dod o hyd i fwyd ffres, maethlon a chreu ryseitiau a phrydau diddorol o fewn cyllideb. Rwy’n hapus iawn gyda’r niferoedd a’r adborth ac yn ogystal mae hefyd yn helpu bwydo teuluoedd myfyrwyr, a all fod yn cael trafferth gyda chostau byw.” 

Bowl of soup from Cooking Club
A row of bags - these are Cooking Club bags with ingredients

Cafodd Alex Huggett, cyn-bennaeth Dysgu Gydol Oes, ei hysbrydoli gan waith Rachel Arnold a’i gwaith ymchwil i Teach the Teacher. 

Mae’r cynllun yn golygu bod myfyrwyr a staff yn cyfnewid rolau a thiwtoriaid yn newid lleoedd gyda’u myfyrwyr oherwydd yn aml, gall myfyrwyr sy’n ailsefyll eu TGAU brofi hunanbarch isel pan ddaw hi i ailwneud cwrs sy’n gofyn am gyfranogiad gorfodol yn hytrach nag opsiynol.

Mae’r dysgwr yn aml yn fedrus a llawn brwdfrydedd ynghylch ei brif faes astudio ond nid yw ei athro TGAU yn cael cyfle i weld yr ochr yma ohono. Felly eir â’r tiwtor i faes astudio’r dysgwr a bydd y dysgwr yn dysgu ei sgiliau iddo. 

Mae Alex ers tro wedi bod yn archwilio holl feysydd y coleg gan gynnwys cynnal a chadw stablau ceffylau, coginio ar gyfer bwyty hyfforddi’r coleg a phlastro wal. Mae ei hymchwil wedi arwain at chwech o ddarlithwyr ychwanegol yn ymuno â’i methodoleg. 

Daeth y pandemig â’i broblemau ei hun gan gynnwys ymateb y sector addysg iddo.

Gwnaeth darlithydd Coleg Sir Gâr Catherine Roberts gydnabod bod covid wedi gweld newid aruthrol yn y modd roedd ymarferwyr yn ymgysylltu â myfyrwyr, a daeth symud o ddysgu wyneb yn wyneb i ddysgu ar-lein â set gyfan newydd o heriau. 

Roedd archwilio a ddylai camerâu fod ymlaen neu i ffwrdd yn ystod darlithoedd ar-lein yn gwestiwn a arweiniodd at fwy o gwestiynau. Polisi gwreiddiol y coleg oedd cadw camerâu ymlaen i asesu ymgysylltiad, ond gwnaeth Catherine gwestiynu sut, mewn gwirionedd, caiff ymgysylltiad ei fesur o ystyried straen sgrin a phryder mewn myfyrwyr a oedd yn cael dysgu ar-lein yn fwy heriol. 

Daeth ymchwil i’r canlyniad bod presenoldeb corfforol mewn gofod ar-lein yn ddull gor-syml o fesur ymgysylltiad ac y gellid ei fesur mewn nifer o ffyrdd eraill. Roedd defnyddio offer ar-lein amser real, megis swyddogaeth codi llaw, Google chat, Jamboards a pholau yn ddangosyddion gwell o ddealltwriaeth a rhyngweithiad myfyrwyr mewn sesiwn. Cyhoeddodd Catherine ei hymchwil yn y cyhoeddiad cenedlaethol ‘Intuition’(Roberts, 2021).

Cafodd ymchwil weithredu Karl Sedgewick ei gyrru gan y pandemig hefyd. Fel rheol byddai‘r myfyrwyr yn Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg yn arddangos eu gwaith diwedd blwyddyn ar draws yr ysgol gelf gyfan ond roedd covid yn golygu nad oedd y gofod ffisegol traddodiadol yn bosibl.

Gan ddefnyddio sganio 3D a thechnolegau 360, datblygodd ofod arddangos sylweddol ar-lein lle, yn 2020, gwnaeth bron i 40,000 o ymwelwyr wylio gwaith myfyrwyr, gan ei amlygu i gynulleidfa’n ehangach nag o’r blaen. 

Datblygwyd y model hwn ymhellach a chaiff ei ddefnyddio mewn ymarfer cyfredol gan helpu myfyrwyr i allu dangos eu gwaith ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol. 

Mae’r rhaglen Diwylliant o Chwilfrydedd yn diweddu bob blwyddyn mewn Gŵyl Ymarfer neilltuol o fywiog ac egnïol o gyfnewid planhigion a llyfrau, cerddoriaeth fyw, arlwyo sydd hefyd yn ei gwneud yn unigryw yn ei hymagwedd ffres ac anffurfiol.

Ychwanegodd Bryony Evett Hackfort: “Mae’r cyflawniadau ymchwil a’r cyhoeddiadau hyn ond yn bosibl oherwydd y staff anhygoel sydd wedi cefnogi’r rhaglen dros y bum mlynedd ddiwethaf.” 

Alex Huggett learning culinary skills putting food on plates
The publication front cover

Rhannwch yr eitem newyddion hon