Erthygl darlithydd yn cael ei chyhoeddi gan gorff ambarél Plant yng Nghymru (Children in Wales)

Mae darlithydd yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ail erthygl wedi’i chyhoeddi mewn cylchgrawn gan Blant Yng Nghymru.
Mae’r cylchgrawn wedi cynnwys erthygl y darlithydd Nicky Abraham yn rhifyn y gaeaf Plant yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl.
Mae ei herthygl, o’r enw ‘Social media: It takes a whole community to raise a digital citizen’, yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol ym mywydau plant a phobl ifanc ac yn archwilio effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc.
Mae’n edrych ar wybodaeth anghywir, seiberfwlio a defnydd goddefol, yn ogystal â nodweddion cadarnhaol cyfryngau cymdeithasol megis yr ymchwil a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr (Carers Trust) (2024) sy’n dweud bod cyfryngau cymdeithasol yn gallu darparu lle diogel i ofalwyr ifanc rannu profiadau a lleddfu ynysigrwydd cymdeithasol.

Mae Nicky Abraham yn addysgu myfyrwyr ar radd sylfaen y coleg mewn Plant, Pobl Ifanc a Chymdeithas ac nid hon yw’r erthygl gyntaf o’i heiddo i gael ei chyhoeddi.
Roedd ei hymchwil weithredu, a anogwyd gan y coleg fel rhan o’i raglen ‘Diwylliant o Chwilfrydedd’, yn seiliedig ar y Cwricwlwm i Gymru a wnaeth helpu dylanwadu ar ei herthygl gyntaf, a gyhoeddwyd yn rhifyn pen-blwydd 30ain Plant yng Nghymru.
Cyflwynodd Nicky sesiwn siaradwr gwadd yn ddiweddar ym Mhencadlys Heddlu Dyfed Powys, i swyddogion yr heddlu sy’n gweithio ar Raglen Ysgolion yr Heddlu. Roedd y sesiwn yn archwilio ffactorau oedd yn arwain plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn ymddygiad troseddol. Mae Nicky wedi bod yn cysylltu â Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a Rheolwr Rhaglen Ysgolion yr Heddlu Bethan James i gynorthwyo gyda’i hymchwil.
Mae Plant yng Nghymru’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill, i sicrhau bod hawliau plant yn flaenllaw wrth wneud polisïau a phenderfyniadau gan ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru’n cael llais ac eiriol dros newidiadau mewn polisi yng Nghymru.
Meddai darlithydd Coleg Sir Gâr Nicky Abraham: “Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn offeryn pwerus ar gyfer cysylltu, ond gallant hefyd achosi heriau. Mae hyrwyddo dinasyddiaeth ddigidol ymhlith plant a phobl ifanc yn yr oes ddigidol hon yn hanfodol ar gyfer diogelu effeithiol a hyrwyddo lles.
“Rwy’n hapus iawn i allu rhannu gwaith pwysig Heddlu Dyfed Powys ar lwyfan cenedlaethol.”