Dod â Tyisha yn fyw: Myfyrwyr yn cydweithio ar brosiect murlun cymunedol

Mae myfyrwyr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Gâr yn cydweithio gyda phrosiect Trawsnewid Tyisha Cyngor Sir Caerfyrddin i greu celf furol liwgar, sydd wedi’i hysbrydoli gan y gymuned ar gyfer yr ardal.
Mae’r myfyrwyr, sy’n astudio ar un o gampysau Ysgol Gelf Caerfyrddin y coleg ym Mhibwrlwyd, am ymgysylltu â’r gymuned, preswylwyr a busnesau i wneud hwn yn brosiect gwirioneddol gydweithredol.
Bydd y murluniau yn dathlu hanes lleol ac atgofion, gan gipio naws treftadaeth gyfoethog Tyisha.
Mae’r gwaith hefyd yn ffurfio rhan o fodiwl cwrs o’r enw ‘ymgysylltu â chynulleidfa mewn celf a dylunio’ fel rhan o gwrs lefel tri (lefel cyn-brifysgol).
Meddai Rebecca Sellick, darlithydd mewn celf yng Ngholeg Sir Gâr: “Ein bwriad yw gwneud hwn yn brosiect gwirioneddol gydweithredol trwy wahodd busnesau a phreswylwyr lleol i gymryd rhan.
“Trwy ennyn diddordeb y gymuned, rydyn ni’n gobeithio meithrin ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth yn y murluniau, gan droi Tyisha yn ardal groesawgar a bywiog i bawb.”

Ceir dau leoliad ar gyfer y murluniau sy’n cynnwys Caeadau menter CETMA, fydd yn dathlu hanes lleol a threftadaeth, gan sicrhau bod y gwaith celf yn apelio at breswylwyr lleol ac yn adlewyrchu eu hanesion.
A’r ail gyferbyn â Home Bargains, lle caiff saith bwrdd mawr eu trawsnewid i fod yn furlun eang yn cynnwys patrymau, symbolau a naratifau a ysbrydolwyd gan yr amgylchedd lleol.
Mae’n lleoliad sy’n cynnig cyfle i greu cyfres o weithiau celf cydlynol ac eto dynamig fydd yn gwella apêl weledol yr ardal.
Ychwanegodd Rebecca Sellick: “Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael profiad ymarferol mewn celf gyhoeddus ac yn ei dro, mae’n cynnig rhywbeth cadarnhaol i’r gymuned.
“Dim ond y dechrau yw hyn o fenter hirdymor i adfywio Tyisha a bob blwyddyn, ychwanegir murluniau newydd gyda’r nod o gynnwys mwy o fusnesau lleol a phreswylwyr. Gyda’n gilydd gallwn ni greu amgylchedd glannach, brafiach a mwy ysbrydoledig i’r gymuned ei fwynhau.”
Meddai’r Cynghorydd Linda Davies Evans, yr Aelod Cabinet ar gyfer Cartrefi: “Rwyf wrth fy modd bod y prosiect hwn, drwy waith partneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Choleg Sir Gâr, yn darparu cyfle i fyfyrwyr arddangos eu sgiliau artistig yn ogystal â darparu gwaith celf i gymuned Tyisha i bawb ei fwynhau.”