Skip page header and navigation
An animation of a cat inspired by a game

Mae Oriel Gwyn yn Aberaeron yn cynnal arddangosfa o waith celf gan grŵp o fyfyrwyr Coleg Ceredigion wnaeth raddio’n ddiweddar o gwrs sylfaen mewn celf a dylunio.

Mae dwy fyfyrwraig lefel tri sydd ar hyn o bryd ar gwrs sylfaen celf a dylunio CBAC y coleg wedi bod yn cyd-guradu’r arddangosfa ynghyd â churadur yr oriel, Helen Duffee.  

Mae’r gwaith yn amrywiol ac mae’n cynnwys lluniadu, peintio, ffotograffiaeth, animeiddio a cherflunio. 

Mae’r fyfyrwraig Cat Northfield yn arddangos darn newydd o’r enw ‘Stretch’  sy’n ddarn siarcol a geso ar bren haenog. “Datblygodd y gwaith hwn o archwilio i symudiadau corfforol ac arferion ymarfer,” meddai Cat. “Mae’r ffigur dan y ffabrig tryloyw, yn symboleiddio’r teimladau ac emosiynau bendigedig sy’n deillio o’r gweithredoedd hyn. Mae’r gofod gwyn disglair, hylifol yn adlewyrchu’r adnewyddiad a’r ailosodiad rydyn ni’n gallu profi yn y meddwl a’r corff drwy’r weithred syml a phwerus o ymestyn.” 

Mae Danni Stephenson yn un o’r cyd-guraduron ac mae’r profiad, meddai, wedi bod yn wych. “Mae dysgu sut i guradu arddangosfa wedi bod yn heriol ond yn hwyl,” dywedodd hi. “Rydyn ni wedi dysgu llawer am y realiti o fod yn artist a’r hyn sydd ei angen i ddangos eich gwaith.”

Mae celfwaith Danni, ‘My Youth’, yn beintiad a ysbrydolwyd gan gymharu ei hieuenctid hi i’r byd sydd ohoni heddiw. 

Mae’r fyfyrwraig Willow Holt, sydd hefyd yn cyd-guradu’r arddangosfa, yn dangos animeiddiad o’r enw ‘Cult of Cats’, a ysbrydolwyd gan gêm o’r enw ‘Cult of the Lamb’.

Bu’r darlithydd sylfaen mewn celf a dylunio, Julia Hopkins, yn cysylltu ag orielau lleol er mwyn creu cyfleoedd i fyfyrwyr celf a dylunio Coleg Ceredigion ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant. “Roedd yr arddangosfa a guradwyd ar y cyd y llynedd yn Oriel Gwyn yn llwyddiant,” meddai. “Roedd yr agoriad yn byrlymu gydag egni a chynigiodd Oriel Gwyn arddangosfa unigol o’i ffotograffau du a gwyn, hyfryd i un o’n myfyrwyr, Zara Evans.”

Cynhelir agoriad yr arddangosfa yn Oriel Gwyn am 2pm ddydd Sadwrn Chwefror 8 tan Ebrill 7.

An image of two faces hand painted and drawn
a black and white hand drawn figure

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau