Cystadleuaeth adeiladu yn datblygu safonau proffesiynol myfyrwyr
Cynhaliodd Coleg Sir Gâr ddigwyddiad Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, lle y llynedd fe wnaeth dau fyfyriwr symud ymlaen i ennill aur yn y categorïau gwaith saer a gwaith asiedydd mewn rownd derfynol ar gyfer y DU gyfan.
Teithiodd myfyrwyr o’r Coleg Merthyr Tudful, Coleg Gŵyr Abertawe a NPTC i gampws y coleg yn Rhydaman i gystadlu yng nghyfleusterau adeiladu pwrpasol y campws.
Yn cystadlu gartref roedd saith o fyfyrwyr Coleg Sir Gâr ac wyth o fyfyrwyr Coleg Ceredigion mewn ystod o sgiliau gan gynnwys gosod brics, plastro, gwaith asiedydd, gwaith saer a thrydanol gyda phaentio ac addurno yn cystadlu ar ddyddiad yn nes ymlaen.
Y llynedd, bu myfyrwyr Coleg Ceredigion, Osian James (gwaith saer) a Steffan Thomas (gwaith asiedydd) yn cystadlu yn yr un gystadleuaeth gan symud ymlaen wedyn i ennill medalau aur yn rownd derfynol genedlaethol SkillBuild y DU.
Yn y gystadleuaeth, mae myfyrwyr yn cael deunyddiau a briff technegol i weithio iddo o fewn amserlen benodol ac yn adeiladu cynnyrch gorffenedig yn ymwneud ag amrywiol ganghennau’r diwydiant adeiladu ac yn cael eu beirniadu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.
Roedd hwn yn gyfle i arddangos sgiliau cymhleth o amrywiaeth o feysydd crefft a oedd yn cynnwys gwaith brics, gwaith saer, gwaith asiedydd, trydanol, gwaith plymwr a phlastro.
Cyflenwodd LBS y brics, ac yn garedig fe wnaethant roi nwyddau a chrysau-t y cwmni i’r categori gosod brics yn y gystadleuaeth.
Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a
phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a gwella eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.
Dywedodd Wayne Savory, cyfarwyddwr cynorthwyol a phennaeth adeiladu yng Ngholeg Sir Gâr: “Roeddem wrth ein bodd yn gwahodd myfyrwyr a phrentisiaid o bob rhan o’r rhanbarth i ddatblygu a phrofi eu sgiliau trwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru.
“Mae’r gwaith wedi’i feirniadu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a byddwn yn derbyn y canlyniadau yn ddiweddarach, lle bydd yr enillwyr yn cael eu dathlu mewn noson wobrwyo canolfannau lloeren Cymru gyfan.“
“Roedd hefyd yn galonogol gweld mwy o gystadleuwyr benywaidd yn cymryd rhan ac yn hyfforddi i weithio yn y diwydiant adeiladu.”
Cefnogir Cystadlaethau Sgiliau Cymru gan brosiect Ysbrydoli Sgiliau yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi holl gystadleuwyr Cymru i gymryd rhan mewn cystadlaethau ac i’w helpu i symud eu taith gystadlu ymlaen i safonau cenedlaethol, y DU a rhyngwladol.


