Cyfarwyddwr Coleg yn cael cydnabyddiaeth yn llyfr ‘AI mewn addysg’ prif awdur

Gwella nid amnewid.
Mae cyfarwyddwr Coleg Sir Gâr sy’n arwain datblygiad technoleg o fewn addysgu a dysgu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, wedi cael ei dyfynnu mewn llyfr a ysgrifennwyd gan un o leisiau mwyaf blaengar y byd ar AI mewn addysg.
Mae’r cyfarwyddwr addysgu, dysgu ac addysg, Bryony Evett Hackfort, yn arwain datblygiad technolegau cynhyrchiol Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer myfyrwyr a staff yn y ddau goleg.
Defnyddiwyd ei hethos ‘gwella nid amnewid’ yn llyfr Dan Fitzpatrick o’r enw Infinite Education: The Four-Step Strategy for Leading Change in the Age of Artificial Intelligence.
Roedd y dyfyniad yn dweud: “Fy ymagwedd wrth arwain datblygiad strategol AI oedd sefydlu’r weledigaeth glir a syml o ‘Wella Nid Amnewid. Roedd yn hanfodol bod staff yn deall, i ni nid yw AI yn ymwneud â chymryd lle swyddi, disodli pobl neu ddysgu ond yn hytrach symleiddio llwythi gwaith, gwella creadigrwydd a bod yn aelodau gweithredol a chadarnhaol o’r chwyldro digidol nesaf”.
Ymhlith pethau eraill, mae’r llyfr yn cwestiynu pam fod rhai ysgolion yn ffynnu mewn byd sy’n cael ei ddominyddu gan AI tra bod eraill yn glynu wrth ddulliau sydd wedi dyddio, gan adael myfyrwyr ac athrawon ar ôl.
Mae Dan Fitzpatrick yn ymgynghorydd y gellir ymddiried ynddo i arweinwyr addysgol ac yn arloeswr mewn strategaethau a yrrir gan AI, ac mae wedi ymweld â Choleg Sir Gâr yn y gorffennol pan oedd technolegau AI yn dechrau dod i’r amlwg.
Mae dyfyniad Bryony yn ymuno â syniadau arweinwyr addysgol eraill gan gynnwys Sandra H Ruffo, llywydd Cymdeithas Byrddau Ysgol Talaith Efrog Newydd a’r athro Sugata Mitra, damcaniaethwr addysgol.

Mae’r modd y mae’n mynd i’r afael â Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn hollol gynhwysol ac nid yw’n gyfyngedig i’r sector addysg, gan amlygu’r ffaith y gall unrhyw un ei ddefnyddio. Er bod gwersi i’w dysgu ar hyd y ffordd, mae archwilio creadigrwydd yn allweddol. “Mae rhaid i ni fod yn dryloyw, yn atebol ac yn foesegol wrth ddefnyddio AI cynhyrchiol ond rhaid i ni beidio ei ofni er mwyn i ni elwa o’i fanteision,” meddai Bryony Evett Hackfort. “Fel coleg, rydyn ni am rymuso staff a myfyrwyr i ddefnyddio’r technolegau hyn yn foesegol ac yn gyfrifol. Felly mae’n hanfodol ein bod yn deall sut caiff AI ei ddefnyddio yn y diwydiant a sut y gallai ddatblygu fel bod ein dysgwyr yn datblygu y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Bydd ein peirianwyr, artistiaid, gofalwyr, gwneuthurwyr polisïau, athrawon, ein gweithlu cyfan yn y dyfodol i gyd angen cefnogaeth i ddarganfod eu llais mewn byd digidol sy’n datblygu’n barhaus.”
Ar hyn o bryd mae’r coleg yn rhedeg prosiect ymchwil weithredu Addysgu Tîm Gydag Arloeswyr (Team Teaching with Pioneers), sy’n dod â ffigurau hanesyddol yn fyw trwy ddefnyddio ChatGPT, PlayHT a D-ID Studios, er mwyn adfywio dysgu. Mae wedi derbyn adborth cadarnhaol ac ymgysylltiad cynyddol myfyrwyr.
Mae Bryony wedi cyflwyno pedwar piler i’w hystyried wrth ddefnyddio AI cynhyrchiol yn y coleg, sy’n cwestiynu p’un a yw’r gweithgaredd yn arloesol, moesegol, diogel ac effeithiol.
Mae hi hefyd yn gweithio ar gymhwyster y gellid ei ddefnyddio gan unrhyw sector neu unigolyn i’w helpu i fynd i’r afael ag AI a’i gyrchu gyda hyder.
Ar hyn o bryd mae ei thîm, fel yr unig gynrychiolydd addysg bellach, yn rhan o brosiect Prawf Cysyniad (Proof-of-Concept) drwy’r Atlantic Rim Collaboratory (ARC), dan arweiniad Llywodraeth Cymru.
Hefyd rhannwyd arthroniaethau yng nghynhadledd CICan2024 yn Calgary, sef llais cenedlaethol a rhyngwladol rhwydwaith addysgol ôl-uwchradd mwyaf Canada.
Ychwanegodd Bryony Evett-Hackfort: “Rydyn ni’n gymuned ddysgu ac mae’r ethos hwn yn berthnasol i’n taith gydag AI hefyd.”
