Skip page header and navigation
a tutor presenting a student with certificate
a tutor presenting a student with certificate

Cynhaliwyd digwyddiad gwobrwyo yng Ngholeg Sir Gâr i gydnabod llwyddiant academaidd a phersonol myfyrwyr a ddilynodd raglenni Safon Uwch a Mynediad er mwyn cyflawni eu cyrchnodau gyrfaol yn y dyfodol sef astudio yn y brifysgol, sicrhau prentisiaeth uwch neu gamu i fyd cyflogaeth.

Gwahoddwyd y myfyrwyr llwyddiannus, uchel eu cyrhaeddiad hyn yn ôl i dderbyn eu gwobrau mewn amrywiol feysydd pwnc Safon Uwch megis y gyfraith, mathemateg bellach a daearyddiaeth.

Cydnabuwyd myfyrwyr mynediad i addysg uwch am eu siwrneiau trawsnewidiol fel Summer Cheriton-Mason a gafodd ei haddysgu gartref ac na fynychodd addysg ffurfiol nes ei bod yn 17 oed. 

Dilynodd Summer ei brwdfrydedd dros lenyddiaeth, a ysbrydolwyd gan rai fel Tolkien, ac ar ôl mynychu noson agored, dechreuodd ar ei siwrnai yn y coleg, gan wneud taith gron o 60 milltir, dri diwrnod yr wythnos gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

Enillodd 39 o gredydau prifysgol ar lefel rhagoriaeth a bellach mae hi’n astudio llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Swydd Hertford.

Yn ogystal enillodd Heledd Hunt, ei chyd-fyfyrwraig ar y cwrs Mynediad, Wobr am Ymdrech Neilltuol ar ôl ennill 36 o gredydau prifysgol ar lefel rhagoriaeth ac mae hi nawr yn astudio gradd addysg gynradd yn PCYDDS.

Enillodd Chelsea Gleeson y Wobr am Ymdrech Neilltuol hefyd ac mae hi’n mynd i astudio gwyddoniaeth barafeddygol ar ôl cymryd blwyddyn i ffwrdd.

Ymhlith y cyn-fyfyrwyr Safon Uwch gwobrwyedig a ddechreuodd yn y brifysgol eleni yn dilyn eu canlyniadau Safon Uwch roedd Ben Davies, a enillodd un radd A* a thair A i astudio ffiseg ym Mryste a Ryan Davies a enillodd bum gradd A* dros dair blynedd.

Enillodd Alice Bird wobr am ei hymrwymiad a’i chyflawniad wrth ennill pedair gradd A* mewn pynciau Safon Uwch i astudio seicoleg mewn addysg yng Nghaerefrog.  Enillodd Gwenny Radford hefyd wobr cyflawniad academaidd neilltuol ac mae hi bellach yn astudio yn Ysgol Ryngddisgyblaethol Llundain. 

Meddai Angharad Mansfield, pennaeth 6ed Sir Gâr, sef brand chweched dosbarth Coleg Sir Gâr: “Roedd hi’n braf iawn gweld pawb eto a gwybod eu bod nhw’n llwyddo yn eu llwybrau dewisol.

“Hwn fydd eu coleg nhw bob amser ac rydyn ni’n annog myfyrwyr i gadw mewn cysylltiad gan mai nhw yw’r ysbrydoliaeth i fyfyrwyr y presennol a’r dyfodol.”

Ychwanegodd Jeremy Edwards, darlithydd y gyfraith a Mynediad: “Mae’n gam mawr i ddysgwyr sy’n oedolion ddychwelyd i addysg ac mae’n hyfryd iawn eu gweld nhw nawr ar ôl iddynt gwblhau eu diplomâu yn llwyddiannus ar ôl jyglo eu hastudiaethau gydag ymrwymiadau teulu a gwaith.”

Daeth Dr Andrew Cornish, pennaeth y coleg â’r digwyddiad i ben drwy gydnabod ymdrechion y myfyrwyr, y rhieni a’r athrawon wrth fentora myfyrwyr trwy fuddugoliaethau a heriau ac amlinellodd eu cyflawniadau personol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. 

https://www.flickr.com/photos/colegsirgar/albums/72177720322667963/

a tutor presenting a student with certificate
a tutor presenting a student with certificate
a tutor presenting a student with certificate
An audience watching the staff choir

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau