Skip page header and navigation

Mae gwefan newydd yn cael ei dadorchuddio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion sy’n cynnwys llwyfan newydd ei gynllunio, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, gyda llywio gwell a gwelliant i brofiad y dysgwr. 

Yn dilyn adborth gan fyfyrwyr a budd-ddeiliaid, adeiladwyd y safle i fod yn hollol hygyrch i ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol, ynghyd â nodweddion llywio a chwilio cwrs ychwanegol symlach.

Bydd y llwyfan newydd hefyd yn cynnig rhagor o allu i wella a chreu cynnwys addysgiadol, defnyddiol a diddorol a helpu pobl i ddod o hyd i’w dewisiadau ar gyfer y dyfodol gyda rhwyddineb. 

Cafodd ei greu gyda thaith y myfyriwr mewn golwg a’r rheiny sy’n cefnogi’r daith honno megis rhieni, ysgolion ac ymgynghorwyr gyrfaoedd.

Meddai Christy Anson-Harries, cyfarwyddwr recriwtio a dilyniant yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Rydyn ni wedi’i wneud yn haws nag erioed i ddod o hyd i’ch llwybr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Cheredigion gyda’n gwefan newydd. 

“Mae’n ymwneud â gwneud eich taith yn fwy esmwyth, o wirio cyrsiau i ddod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ei hangen arnoch. 

“Gyda llywio tra syml, nodwedd chwilio smart, a’r cynnwys diweddaraf, bydd popeth gennych ar flaen eich bysedd i’ch helpu i gymryd y cam nesaf hwnnw. 

“P’un a ydych yn archwilio opsiynau neu’n paratoi i wneud cais, mae ein gwefan wedi’i dylunio i’ch arwain drwy bob cam ar y ffordd.”

Gellir dod o hyd i’r wefan newydd yn www.csgcc.ac.uk.

Rhannwch yr eitem newyddion hon