Skip page header and navigation
A risotto dish by one of the students presented nicely on a white dish with a blue tint

Ac yntau wedi tyfu i fyny gyda brwdfrydedd am chwilota, cynhyrchodd Llion risotto madarch a chloron yn dathlu umami ffyngau wedi’u fforio, ynghyd ag arogl moethus cloron Cymru a moethusrwydd madarch shimeji wedi’u piclo. 

Mae myfyrwyr arlwyo a lletygarwch ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion wedi bod yn arddangos eu sgiliau mewn amrywiaeth o gystadlaethau a brofodd eu harbenigedd coginiol.

Enillodd Angharad Thomas fedal arian a’r gorau yn y dosbarth am yr her cymysgu coctels ym Mhencampwriaethau Coginiol Rhyngwladol Cymru yn yr ICC yng Nghasnewydd.  Enillodd hefyd fedal efydd am ei dehongliad o salad Cesar clasurol. 

Mae Angharad yn fyfyrwraig lefel un ac o’r herwydd, mae wedi ennill cystadleuaeth gyntaf arwyddocaol wrth iddi gychwyn ar ei thaith coleg. 

Cystadlodd Llion Evans ac Elis James mewn digwyddiad Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gyda’r canlyniadau heb eu cyhoeddi eto, ond fel rhan o’r gystadleuaeth cawsant gyfle i gymryd rhan yn Her Risotto Riso Gallo lle enillodd y ddau ohonynt fedal arian. 

Roedd yr her, a oedd yn canolbwyntio ar gynnyrch lleol a Chymreig, yn gofyn i gystadleuwyr goginio dau ddogn risotto union yr un fath wedi’i goginio’n berffaith ar gyfer cwrs cyntaf, yn cynnwys un cynhwysyn sy’n frodorol i Gymru.

Dyfeisiodd Elis risotto hadog mwg, bara lawr a chennin i ddathlu ei wreiddiau arfordirol yng Nghymru ac anrhydeddu traddodiadau coginiol byw Cymru. Mae’n asio blasau mwg ysgafn yr hadog gyda chyfoeth hallt y bara lawr gyda chennin melys sy’n rhoi cydbwysedd a rhywfaint o flas daearol.

Ac yntau wedi tyfu i fyny gyda brwdfrydedd am chwilota, cynhyrchodd Llion risotto madarch a chloron yn dathlu umami ffyngau wedi’u fforio, ynghyd ag arogl moethus cloron Cymru a moethusrwydd madarch shimeji wedi’u piclo. 

Dywedodd Huw Morgan, darlithydd arlwyo a lletygarwch:  “Rydym yn falch iawn o’n holl fyfyrwyr a oedd yn ddigon dewr i gystadlu ac a enillodd wobrau.

“Rydym yn rhoi cefnogaeth a hyfforddiant i’w helpu gyda’u gwaith cystadlu, ond mae’n dal i gymryd llawer o amser personol a datblygu sgiliau a chreu bwydlenni cystadleuol i gyrraedd y pwynt hwn.

“Gwnaeth Angharad yn arbennig o dda gan mai dim ond newydd ddechrau ei thaith goginiol ar lefel un y mae hi, felly gobeithio y gall hi symud ymlaen hyd yn oed ymhellach.

“Roeddem hefyd wrth ein bodd yn gweld ein cyd-ddarlithydd, Sam Everton, yn cael ei enwi’n Ben-cogydd Cenedlaethol Cymru yn yr un gystadleuaeth Pencampwriaeth Coginiol Rhyngwladol Cymru.”

Standing with medal around neck in chef's whites with the other chefs/judges
A picture of the lavender cocktail it's purple and in a wide champagne glass, it's well presented for judging
Angharad standing in front of Inspiring Skills branded background holding her medal
A risotto dish by one of the students presented nicely on a white dish with a blue tint

Dyfeisiodd Elis risotto hadog mwg, bara lawr a chennin i ddathlu ei wreiddiau arfordirol yng Nghymru ac anrhydeddu traddodiadau coginiol byw Cymru. Mae’n asio blasau mwg ysgafn yr hadog gyda chyfoeth hallt y bara lawr gyda chennin melys sy’n rhoi cydbwysedd a rhywfaint o flas daearol.

A picture of a cocktail it's orange and well presented for judging
Standing with medal around neck in chef's whites with the other chefs/judges

Rhannwch yr eitem newyddion hon