Skip page header and navigation
Karen wearing a mauve top and black cardigan with a plain background looking at the camera

Peth arall sy’n helpu yw bod mewn grwpiau yn llai o gymharu â phrifysgolion yn fwy felly rydych yn cael cefnogaeth ar bob cam o’ch taith.

Roedd Karen Round wedi bod allan o addysg am rai blynyddoedd cyn iddi benderfynu cychwyn ar radd astudiaethau cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr.

Roedd hi wedi bod yn magu ei phlant am amser ac yna penderfynodd fynd nôl i’r coleg i astudio cwrs Mynediad i Addysg Uwch a arweiniodd wedyn ati’n gwneud cais am y cwrs gradd wedi’i leoli ar gampws y coleg yn Rhydaman.

Mae Karen yn priodoli ei llwyddiant i’r tîm o ddarlithwyr wnaeth ei chefnogi drwy ei chwrs gradd anrhydedd BA a oedd yno i ddathlu ei chyflawniadau mewn seremoni raddio llynedd.

O ganlyniad i’w lleoliad gwaith ar y cwrs gradd, cafodd Karen gyflogaeth lawn amser gyda Mind, lle mae hi’n cynnig cefnogaeth i’r gymuned o fewn rôl iechyd meddwl sydd, meddai, yn werth chweil dros ben. 

Gan adfyfyrio ar y cwrs, mae Karen yn dweud ei bod wedi mwynhau’r ystod eang o bynciau sector-benodol megis diogelu, cefnogi gofalwyr di-dâl, eiriolaeth ac ymarfer cynhwysol, sydd i gyd yn berthnasol i’w rôl waith gyfredol.

Gwnaeth y cwrs hyd yn oed ei helpu yn ei bywyd personol, fel yr esbonia Karen Round: “Ar y pryd, datblygodd fy nhad anabledd sy’n newid bywyd, bron dros nos.

“Helpodd y cwrs fi i wybod ble i gael mynediad i gefnogaeth iddo ef a’n teulu ni.

“Gallaf ddweud heb flewyn ar fy nhafod fod y pethau rwyf wedi’u dysgu ar y cwrs hwn yn well nag unrhyw beth rwyf erioed wedi gwneud.

“Roeddwn yn nerfus ar y dechrau ac yn cwestiynu a fyddwn yn gallu’i wneud e, ond mae’n wych. Roedd y staff yn anhygoel a dw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu cyrraedd diwedd fy ngradd hebddynt gan eu bod yn mynd uwchlaw a thu hwnt i fyfyrwyr.

“Peth arall sy’n helpu yw bod mewn grwpiau yn llai o gymharu â phrifysgolion yn fwy felly rydych yn cael cefnogaeth ar bob cam o’ch taith.”

Mae Karen bellach yn astudio ar gyfer cymhwyster hyfforddi athrawon TAR ac mae wedi dychwelyd i’r coleg lle bu yn astudio yn wreiddiol ar leoliad gwaith hyfforddi addysgu, gan ysbrydoli myfyrwyr eraill ar y radd astudiaethau cymdeithasol yn ogystal â pharhau â’i gwaith gyda Mind. 

Rhannwch yr eitem newyddion hon