Skip page header and navigation
Three female students focus on their art projects, each expressing creativity in a lively and inspiring environment

Bu Pete Monaghan, artist lleol o Aberystwyth, yn rhannu ei broses greadigol yn ddiweddar gyda myfyrwyr celf a dylunio, gan danio eu creadigrwydd a’u hannog nhw i archwilio deunyddiau lluniadu a thechnegau gwneud marciau newydd.

Trwy gyfres o weithgareddau lluniadu, bu Pete yn annog arbrofi a gwneud marciau mynegiannol. Gan weithio o drefniadau bywyd llonydd a ffotograffau monocrom, enillodd y myfyrwyr werthfawrogiad dyfnach ar gyfer cipio cymeriad eu testunau.

Yn aml mae celf Pete yn canolbwyntio ar destunau y mae llawer yn peidio â sylwi arnynt, megis “ffermydd adfeiliedig” ac “ysguboriau anghyfannedd.” Mae wedi’i swyno gan “leoedd sydd wedi cael eu hesgeuluso ac wedi mynd ar eu gwaethaf,” a bydd yn dod o hyd i hanesion, gweadau a harddwch cudd yn y lleoedd hyn. Mae pob manylyn, o’r cerrig mawrion mewn cloddiau sychion i’r mannau clytiog ar y toi, yn dal atgof o fywydau a fu fyw ers llawer dydd.

Trwy gydol y gweithdy, gwnaeth Pete ddangos y ffordd i’r myfyrwyr edrych y tu hwnt i’r arwyneb a darganfod y dyfnder o fewn tirweddau anghofiedig. Gyda deunyddiau a thechnegau gwneud marciau newydd, archwiliodd y myfyrwyr weadau a ffurfiau’r testunau, gan ganfod persbectifau ffres. 

Fe wnaeth ymagwedd Pete nid yn unig ehangu sgiliau technegol y myfyrwyr ond hefyd fe wnaeth ddwysáu eu dealltwriaeth o sut y gall celf ddatgelu harddwch cudd ac adrodd straeon cymhellol am y gorffennol.

Students in an art workshop gather around a table in classroom, sharing ideas and creativity together
Three female students focus on their art projects, each expressing creativity in a lively and inspiring environment

Rhannwch yr eitem newyddion hon