Artist geo-wleidyddol yn peintio stori am newid hinsawdd mewn gweithdy ILS ‘Ymgyrchu Dros Newid Gyda Chelf/ Making Waves with Art’
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Ceredigion sy’n astudio cwrs Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) wedi bod yn gweithio gydag artist geo-wleidyddol sy’n frwd dros leihau newid hinsawdd, mewn gweithdy Ymgyrchu Dros Newid gyda Chelf.
A hithau’n Ddadäydd cyfoes sydd ar hyn o bryd yn astudio MA ôl-raddedig yn Central St Martins, fe gynhaliodd Dee Matthews weithdy ar gampws y coleg yn Aberystwyth a oedd yn archwilio effeithiau newid hinsawdd.
Bu myfyrwyr yn cydweithio ar ddarn o gelf cyffredin a fydd yn cael ei arddangos yng Ngŵyl Cariad y flwyddyn nesaf ar gyfer Menter Hinsawdd Cymru,
Mae diddordebau eraill Dee yn cynnwys cynwysoldeb, hunaniaeth o ran rhywedd ac ableddiaeth ac felly teimlai fod y gweithdy hwn yn rhan hanfodol o’i gwaith.
Bydd ei gwaith ymgyrchu ar newid hinsawdd hefyd yn cael ei fwydo’n ôl i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Dywedodd Louisa Allison-Bergin, darlithydd ILS yng Ngholeg Ceredigion: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Dee am roi o’i hamser i ddod i mewn a gweithio gyda’n grŵp.
“Rhoddodd y gweithdy le i siarad am newid hinsawdd a phopeth sy’n gysylltiedig ag ef fel rhan o brosiect cyffrous.
“Yn ogystal, fe wnaeth dysgwyr ddarganfod y ffyrdd y mae Dee yn ystyried yr amgylchedd mewn unrhyw fath o ymarfer artistig y mae hi’n ei wneud a phŵer iaith gyffredinol celf.
“Mae Dee hefyd yn artist adnabyddus ac uchel ei pharch yn yr ardal leol a hoffem ddiolch iddi am ei hymweliad.”