Anifeiliaid mewn parc bywyd gwyllt yn helpu prosiectau ymchwil
Mae teigrod Swmatra ac udwyr ond yn rhai o’r anifeiliaid sy’n rhan o brosiectau ymchwil myfyrwyr sy’n cael eu cynnal yng Ngholeg Sir Gâr gyda Pharc Bywyd Gwyllt y Faenor (Manor Wildlife Park) yn Sir Benfro.
Mae myfyrwyr ar gwrs gradd anrhydedd y coleg mewn ymddygiad a lles anifeiliaid yn gweithio ar eu prosiectau ymchwil unigol gyda help y parc bywyd gwyllt, y mae ei uwch ofalwr Jess James, yn gyn-fyfyrwraig.
Mae Kim Wilkins, y prif ofalwr ym Mharc Bywyd Gwyllt y Faenor, hefyd yn gefnogwr brwd myfyrwyr a phwysigrwydd lleoliadau gwaith ac mae’n awyddus i gefnogi ymchwil myfyrwyr.
Mae’r prosiectau ymchwil yn cynnwys astudiaeth Freya Morgan o’r defnydd o oleuadau uwchfioled (UV) er mwyn iechyd mewn llociau udwyr, yn enwedig mewn perthynas â lefelau fitamin D. Gosodwyd camerâu yn y lloc y bydd Freya yn eu dadansoddi.
Mae’r myfyriwr Matt Grimwood yn cynnal ystod o arsylwadau ar ymddygiad teigrod Swmatra i atal ymddygiadau annodweddiadol fel camu a symud yn ôl ac ymlaen.
Mae Abbie Williams yn astudio cyfoethogiad bwydo gwasgarog gyda dau fath o lemwr o fewn yr un lloc, gan ddefnyddio ethogramau ar gyfer astudio ymddygiad er mwyn gwneud yn siŵr y darperir y symbyliad a’r cyfoethogiad cywir i’r ddau.
Meddai Sara Morris, darlithydd mewn astudiaethau anifeiliaid yng Ngholeg Sir Gâr: “Yn ystod eu hastudiaethau lefel pump, rhoddir modiwl i fyfyrwyr ar weithio yn y diwydiant gofal anifeiliaid ac mae’r ymchwil hwn yn ffurfio rhan o hynny.
“Mae ein partneriaethau yn y diwydiant yn hollbwysig i ni a’n dysgwyr ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt.
“Mae llawer o’n myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau gwaith a chael swyddi yn y fath sefydliadau, gan ennill mewnwelediad hanfodol ac adeiladu gwybodaeth ymarferol am rywogaethau na ellir ei chael y tu allan i ddiwydiannau megis sŵau arbenigol.”