Myfyrwyr Rhyngwladol Fisa: Polisi Ffioedd Dysgu 2024 - 2025
Introduction
Os ydych yn cofrestru fel myfyriwr rhyngwladol ar Fisa (https://www.gov.uk/student-visa) dylech ddarllen a deall y telerau cofrestru a amlinellir isod cyn llofnodi’r ffurflen gofrestru. Mae’n arbennig o bwysig eich bod yn deall eich atebolrwydd a’n polisi ynglŷn â thaliadau ac ad-daliadau.
Os ydych yn Fyfyriwr Rhyngwladol bydd faint o ffioedd dysgu y byddwch yn atebol am eu talu yn dibynnu ar eich statws ffi a lefel y cwrs rydych chi’n dymuno ei astudio (Addysg Bellach neu Uwch – gweler Atodiad 1).
Mae’n hanfodol bod pob myfyriwr Rhyngwladol posibl yn cysylltu â Gwasanaeth Derbyn y Coleg admissions@colegsirgar.ac.uk yn y lle cyntaf er mwyn ceisio cymorth i nodi ei statws ffi.
TALU FFIOEDD
Rhaid i’ch ffioedd dysgu gael eu talu’n llawn, naill ai o flaen llaw neu wrth gofrestru: Gallwch dalu drwy unrhyw un o’r dulliau canlynol:
TALIAD YMLAEN LLAW:
- Cardiau Debyd a Chredyd; neu
- Trosglwyddiad Banc i:
Barclays Bank, Business Centre, 16 Vaughan Street, Llanelli, SA15 3UE |
|
Côd Didoli: |
20-51-32 |
Enw’r Cyfrif: |
Coleg Sir Gar |
Rhif y Cyfrif: |
20189243 |
IBAN |
GB31 BARC 2051 3220 1892 43 |
SWIFTBIC |
BARCGB22 |
TALU WRTH GOFRESTRU
Gellir derbyn taliad mewn siec Cyfrif Banc y DU neu Gerdyn Debyd / Gredyd.
Gwnewch yn siŵr fod eich enw a’ch cyfeiriad yn ymddangos yn glir ar y trosglwyddiad neu siec.
Yn anffodus, ni ellir derbyn taliadau mewn arian parod dros £200.00.
Noder nad yw ffioedd dysgu yn cynnwys y canlynol:
- Ffioedd arholiadau ail-wneud
- Llyfrau
- Treuliau ychwanegol yn ymwneud â’r cwrs h.y. teithiau, dillad neu ddeunyddiau cwrs.
Os digwydd bod gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag unrhyw rai o’r gweithdrefnau uchod, cysylltwch â’r Uned Dderbyn trwy ffonio 01554 748174 neu trwy anfon e-bost i admissions@colegsirgar.ac.uk
RHOWCH WYBOD I NI AM UNRHYW NEWID
Unwaith eu bod wedi cofrestru gyda’r Coleg rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i’r Coleg ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eu manylion personol: e.e., cyfeiriad, rhif ffôn cartref, rhif ffôn symudol ac ati, trwy ffonio’r Uned Dderbyn ar 01554 748174 neu anfon e-bost i admissions@colegsirgar.ac.uk
ATODIAD 1 - FFIOEDD DYSGU A CHOFRESTRU RHYNGWLADOL
Addysg Uwch Lawn Amser Ryngwladol - Israddedig |
|
Cwrs |
Ffi |
HND, Gradd Sylfaen |
£12,100 |
BSc, BA Blwyddyn 1-3 |
£12,100 |
International Further Education |
|
Cwrs |
Ffi |
Pob cwrs llawn amser |
£8,250 |