Skip page header and navigation

Iechyd, Diogelwch a Lles

Hyrwyddo amgylchedd gwaith mwy diogel ac iachach

Hands of unseen kneeling person, performing chest compressions on a first aid dummy torso

Hyrwyddwch amgylchedd gwaith mwy diogel, iachach, gyda’n Cyrsiau Iechyd, Diogelwch, a Lles. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol i chi i reoli risgiau’r gweithle, ymateb i argyfyngau, a hyrwyddo diwylliant o ddiogelwch a lles. P’un a ydych yn newydd i iechyd a diogelwch neu’n bwriadu ehangu eich arbenigedd, mae ein cyrsiau’n darparu hyfforddiant ymarferol, cyfoes sy’n berthnasol i unrhyw ddiwydiant.

Cyrsiau Cymorth Cyntaf: Dysgwch sut i ymateb yn effeithiol i achosion brys gyda’n cyrsiau cymorth cyntaf cynhwysfawr. Ewch ati i ennill sgiliau hanfodol megis CPR, gofal clwyfau, ac ymateb i achosion brys, gan sicrhau eich bod yn barod i ddygymod yn hyderus ag ystod o sefyllfaoedd meddygol.

Cyrsiau IOSH: Datblygwch eich dealltwriaeth o ddiogelwch yn y gweithle gyda’n cyrsiau achrededig IOSH (Y Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol). Dysgwch i nodi peryglon, asesu risgiau, a rhoi datrysiadau ymarferol ar waith i wella safonau diogelwch a hyrwyddo lles gweithwyr yn y gweithle.

Pam astudio'r Iechyd, Diogelwch a Lles?

01
Trwy astudio yn y maes hwn, gallwch ddysgu strategaethau i hyrwyddo lles corfforol a lles meddyliol hefyd yn y gweithle.
02
Ehangwch eich rhagolygon gyrfaol ar draws diwydiannau. Mae yna alw am y rolau hyn.
03
Diogelwch eich hun, eich gweithwyr a’ch sefydliadau.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.