Skip page header and navigation

Gwella Busnes a Rheoli Prosiectau

Dysgwch sut i arwain prosiectau llwyddiannus

A group of people in an office discussing a laptop

Gyrrwch lwyddiant mewn unrhyw sefydliad gyda’n Cyrsiau Gwella Busnes a Rheoli Prosiectau. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i arwain prosiectau, gwella prosesau busnes, a chyflawni cyrchnodau sefydliadol. P’un a ydych yn newydd i reoli prosiectau neu’n bwriadu mireinio eich galluoedd, mae ein cyrsiau yn cynnig gwybodaeth ymarferol a strategaethau y gellir eu defnyddio ar draws amrywiol ddiwydiannau.

Pam astudio'r Gwella Busnes a Rheoli Prosiectau?

01
Mae yna alw mawr am sgiliau Gwella Busnes a Rheoli Prosiectau ar draws ystod o ddiwydiannau, gan gynnwys TG, adeiladu, gofal iechyd, cyllid a gweithgynhyrchu. Gall gweithwyr proffesiynol yn y meysydd hyn ddilyn ystod eang o rolau.
02
Ewch ati i wella eich effeithlonrwydd a’ch effeithiolrwydd gan ennill sgiliau mewn datrys problemau a dod o hyd i atebion
03
Mae meddu ar sgiliau rheoli prosiectau cryf yn gallu arwain at ddilyniant gyrfaol cyflymach. Yn aml gwelir unigolion â chymwysterau mewn rheoli prosiectau a gwella busnes fel arweinwyr sy’n gallu rheoli adnoddau’n effeithlon, bodloni terfynau amser a gyrr

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.