Skip page header and navigation

Dadansoddwr Seiberddiogelwch CompTIA (CySA+) (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Ar-Lein
Cwrs hyfforddi 5 diwrnod o hyd dan arweiniad hyfforddwr

Croeso i ddechrau eich taith seiberddiogelwch gyda chwrs ardystio CompTIA CySA+ Cyber Dadansoddwr Seiberddiogelwch.

Trwy ystafelloedd dosbarth rhithwir dan arweiniad arbenigol, byddwch yn ymgolli ym myd seiberddiogelwch, gan ddysgu sut i ddiogelu sefydliadau yn effeithiol rhag bygythiadau seiber.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
Cwrs hyfforddi 5 diwrnod o hyd dan arweiniad hyfforddwr

Cysylltwch am brisiau (Cyllid CDP ar Gael)

Achrededig:
CompTIA logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth gadarn i chi o ddadansoddi bygythiadau, darganfod tresmasu, ymateb i ddigwyddiadau, ac ymchwiliadau fforensig, i gyd dan arweiniad hyfforddwyr profiadol.

Felly, p’un a ydych chi’n dechrau ar eich gyrfa TG neu’n edrych i wella’ch gwybodaeth bresennol, mae’r cwrs ardystiad CompTIA CySA+ yn garreg sarn berffaith i hyrwyddo’ch gyrfa mewn seiberddiogelwch.

Mae’r cwrs ardystiad CompTIA CySA+ wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n barod i blymio’n ddwfn i fyd seiberddiogelwch. Os ydych chi newydd ddechrau neu’n ystyried gyrfa ym maes seiberddiogelwch, mae’r cwrs hwn yn ddewis ardderchog. Ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd eisoes yn gweithio ym meysydd TG a rhwydweithio, gall y cwrs hwn ddarparu llwybr carlam i seiberddiogelwch, gan roi’r wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i wneud trawsnewidiad cyflym a llwyddiannus.

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i weithio mewn amrywiaeth o swyddi gan gynnwys Dadansoddwr Diogelwch TG, Arbenigwr Seiberddiogelwch, Dadansoddwr Bygythiadau, Peiriannydd Diogelwch a Dadansoddwr Bregusrwydd a Seiberddiogelwch.

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.